Silwriaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ffiniau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd y '''Silwriaid''' ([[Lladin]]: ''Silures'') yn llwyth [[Brythoniaid|Brythonaidd]] oedd yn byw yn ne-ddwyrain [[Cymru]] pan gyrhaeddodd y [[Rhufeiniaid]] i'r ardal. Yn fras roeddynt yn byw yn yr hyn ddaeth yn nes ymlaen yn [[Sir Frycheiniog]] a [[Morgannwg]]. Roeddynt yn ffinio a'r [[Ordoficiaid]] yn y gogledd a'r [[Demetae]] yn y gorllewin. Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig [[Tacitus]] roeddynt yn bobl bryd-tywyll gyda gwallt cyrliog.
 
Yr oeddynt yn nodedig am ymladd yn ffyrnig yn erbyn y Rhufeiniaid. Tua [[48| 48 OC]] ffodd [[Caradog]] atynt wedi i'w lwyth ei hun, y [[Catuvellauni]], gael eu gorchfygu gan y Rhufeiniaid. Arweiniodd ef eu rhyfelwyr yn erbyn [[Publius Ostorius Scapula]] pan ymosododd OstoriusarnyntOstorius arnynt hwy ac ar yr [[Ordofisiaid]]Ordoficiaid. Bu Ostorius yn ymladd yn hir yn eu herbyn heb eu concro'n derfynol, ac wedi iddo ef farw enillasant fuddugoliaeth dros [[Legio II Augusta|yr Ail Leng]]. Dim ond tua 78 OC y gorchfygwyd hwy yn derfynol gan [[Sextus Julius Frontinus]].
 
Prifddinas y Silwriaid yn y cyfnod Rhufeinig oedd Venta Silurum ([[Caerwent]] heddiw). Wedi'r cyfnod Rhufeinig daeth tiriogaeth y Silwriaid yn deyrnasoedd [[Teyrnas Gwent|Gwent]], [[Brycheiniog]], [[Gwynllwg]] a [[Teyrnas Morgannwg|Morgannwg]]. Enwyd y cyfnod [[Silwraidd]] mewn daeareg ar ôl y llwyth yma, gan i greigiau o'r cyfnod yma gael eu disgrifio gyntaf yn nhiriogaeth y llwyth.