Caethwasiaeth ac Islam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732 Tagiau: Golygiad cod 2017 |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Nid yw [[caethwasiaeth]] ynddo'i hun yn groes i ddysgeidiaeth [[Islam]], ond mae'r [[Corân]], yr [[hadith]], ac ysgolheictod Islamaidd fel rheol yn cyfyngu ar yr arfer hon. Ceir corff cymhleth o safbwyntiau ar y pwnc gan feddylwyr Islamaidd<ref name="auto">Brockopp, Jonathan E., “Slaves and Slavery”, in: Encyclopaedia of the Qurʾān, General Editor: Jane Dammen McAuliffe, Georgetown University, Washington DC.</ref><ref>Brunschvig, R., “ʿAbd”, in: ''Encyclopaedia of Islam, Second Edition'', Edited by: P. Bearman, Th. Bianquis, C.E. Bosworth, E. van Donzel, W.P. Heinrichs.</ref> sydd yn amrywio yn ôl grŵp, mudiad, gwlad, ac oes.<ref name="Lewis">Lewis 1994, [http://www.fordham.edu/halsall/med/lewis1.html Ch.1] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20010401012040/http://www.fordham.edu/halsall/med/lewis1.html |date=2001-04-01 }}</ref> Bu caethwasiaeth yn rhan o fywyd [[Arabia]] yn y cyfnod cyn-Islamaidd, yn bennaf o ganlyniad i ryfel.<ref name="auto"/><ref name=OEIW/> Ni cheisiai'r Corân (datguddiad [[Allah]]) na'r hadith (dywediadau'r Proffwyd [[Muhammad]]) wahardd caethwasiaeth a chafodd parhad yr arfer ei gymryd yn ganiataol gan Muhammad a'i ddilynwyr.<ref name="eois">Brunschvig. 'Abd; ''[[Encyclopedia of Islam]]''</ref><ref name=OEIW>{{cite encyclopedia|author=Dror Ze’evi|title=Slavery|encyclopedia=The Oxford Encyclopedia of the Islamic World|editor=John L. Esposito|publisher=Oxford University Press|location=Oxford|year=2009|url=http://bridgingcultures.neh.gov/muslimjourneys/items/show/214|accessdate=2017-02-23|archiveurl=https://web.archive.org/web/20170223125519/http://bridgingcultures.neh.gov/muslimjourneys/items/show/214|archivedate=2017-02-23|url-status=dead|date=}}</ref> Yn ôl dogma Islamaidd gynnar, gwaherddir caethiwo'r rhai sydd yn aelodau rhydd o gymdeithas Islamaidd, gan gynnwys yr an-Fwslimiaid (''dhimmi'') a ddiogelsant dan drefn [[sharia]], a gosodir rheolau i wella amodau'r caethweision. Yn ôl sharia, dim ond an-Fwslimiaid a gawsant eu cipio neu eu prynu y tu hwnt i ffiniau'r tiroedd Islamaidd, neu feibion a merched y rhai a oedd yn gaethweision yn barod, sydd yn gyfreithlon gaethweision.<ref name=OEIW/> Trafodir pwnc caethwasiaeth yn eang gan gyfreithegwyr Islamaidd clasurol.<ref name="Lewis" /> O ran materion crefyddol, cafodd caethweision, boed yn Fwslimiaid neu o ffydd arall, eu hystyried yn gydradd â'u cyd-addolwyr.<ref>See: Martin (2005), pp.150 and 151; Clarence-Smith (2006), p.2</ref> Nid yw cyfreitheg Islamaidd yn sôn am elfen hiliol neu ethnig yn y drefn hon, ond mewn gwirionedd byddai'r mwyafrif o gaethweision yn tarddu o bobloedd wahanol i'r rhai a oedd yn berchen arnynt.<ref>Bernard Lewis, ''Race and Color in Islam,'' Harper and Row, 1970, quote on page 38.</ref>
Yn hanesyddol, bu'r mwyafrif o gaethweision yn [[y byd Mwslimaidd]] naill ai yn weision a morwynion y tŷ neu yn filwyr, mewn cyferbyniad â [[masnach gaethweision yr Iwerydd|chaethwasiaeth yn y Byd Newydd]] a oedd yn seiliedig ar economi'r planhigfeydd. Bu eraill yn gweithio
[[Delwedd:Slave market Khartoum 19th c.png|bawd|Darluniad o farchnad gaethweision yn [[Khartoum]] yn y 1870au.]]
|