Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Castell Dolwyddelan"

Ychwanegwyd 3,253 beit ,  blwyddyn yn ôl
B
Wedi gwrthdroi golygiadau gan 213.205.197.230 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Bot Sian EJ.
(fgw gfw)
B (Wedi gwrthdroi golygiadau gan 213.205.197.230 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Bot Sian EJ.)
Tagiau: Rollback
{{Gwybodlen lle | ynganiad = {{wikidata|property|P443}}|gwlad={{banergwlad|Cymru}}}}
 
[[Castell]] o flaen bwlch yn y mynyddoedd ger pentref [[Dolwyddelan]] yn [[Dyffryn Lledr|Nyffryn Lledr]], [[Gwynedd]], yw '''Castell Dolwyddelan'''. Mae'r castell yn sefyll mewn lle strategol, yn amddiffyn y fynediad i Wynedd o'r dwyrain ac o gyfeiriad Conwy. Mae ar restr safleoedd treftadaeth [[Cadw]]. Amddynnai rhannau uchaf [[cwmwd]] [[Nant Conwy]].
<br />
 
==Hanes==
Cyn i'r castell presennol gael ei godi roedd y dyffryn yn cael ei amddiffyn gan gastell llai, a adwaenir heddiw fel [[Tomen y Castell]]. Ar y safle ceir craig gydag olion aneglur muriau twr amddiffynol sy'n gorwedd chwarter milltir i'r de-ddwyrain o'r castell presennol.
 
Codwyd Castell Dolwyddelan gan dad [[Llywelyn Fawr]], [[Iorwerth Drwyndwn]]. Mae'n bosibl bod Llywelyn Fawr wedi cael ei eni yma, neu yn Tomen Castell, tua [[1173]].
 
Roedd yn safle pwysig iawn i [[Llywelyn ein Llyw Olaf]]. Roedd un o'r ddau gastell ([[Castell Dolbadarn|Dolbadarn]] oedd y llall) a etifeddodd. Roedd y tir o'i gwmpas yn safle ar gyfer cadw gwartheg i fwydo'r fyddin, un o gyfres o ''[[vaccaria]]'' tywysogaidd yn [[Eryri]]. Roedd Llywelyn yn cadw rhan o'i drysor yn y castell yn ogystal, er mwyn diogelwch. O bryd i'w gilydd byddai [[Cylchdaith llys Tywysogion Gwynedd|llys ar gylch]] y tywysog yn cael ei gynnal yno yn ogystal, fel y bu ar 9 Awst, [[1275]], er enghraifft. Felly tyfodd y castell i fod yn llawer mwy nag amddiffynfa yn unig; chwareai ran bwysig yn economi a gweinyddiaeth [[Teyrnas Gwynedd|Tywysogaeth Gwynedd]] hefyd.
 
Cipiwyd y castell gan [[Edward I o Loegr|Edward I]] a'i luoedd ar y [[18 Ionawr]], [[1283]]. Roedd y Saeson yn canolbwyntio ar y cestyll ar yr arfordir ac ni ddefnyddiwyd Dolwyddelan ar ôl [[1290]].
 
==Yr adeilad==
Mae gan y castell dau dŵr. Codwyd y [[gorthwr]] (''keep'') gwreiddiol ar ddiwedd y [[12g]] neu ar ddechrau'r [[13g]]; yr oedd iddi seler ynghyd â stafell ar y llawr cyntaf gyda grisiau cerrig allanol yn arwain iddi. Roedd y fynedfa i'r gorthwr yn cael ei amddiffyn gan [[Pont godi|bont godi]] ac adeilad blaen.
 
Mae [[llenfur]] o gerrig lleol yn amylghynu'r safle heddiw ond mae'n bosibl bod hwnnw wedi disodli [[palis]] pren cynharach, efallai yn gynnar yn y 13g.
 
Ymddengys i'r ail dwr ar y safle gail ei godi gan Llywelyn ap Gruffudd rhywbryd rhwng [[1250]] a [[1270]]. Mae'n dwr petryal cadarn yng nghornel ogledd-orllewinol y castell ac mae'n wynebu'r gogledd.
 
Ychwanegwyd llawr arall at y gorthwr gwreiddiol yn y [[15fed ganrif|bymthegfed ganrif]] gan [[Maredudd ab Ieuan]], uchelwr o Ddolwyddelan. Yn y [[19eg ganrif|bedwaredd ganrif ar bymtheg]] cafodd y gorthwr ei atgyweirio'n sylweddol. Y twr hwn yw'r mwyaf amlwg o'r ddau dwr heddiw, ond yn [[yr Oesoedd Canol]] buasai'r twr gorllewinol wedi bod yn llawer mwy trawiadol.
 
==Mynediad==
Mae'r castell yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd. Ceir maes parcio wrth ymyl yr [[A470]] ar y ffordd i Flaenau Ffestiniog ar ôl gadael Dolwyddelan. Mae llwybr yn dringo o'r maes parcio i'r castell.
 
==Llyfryddiaeth==
*Richard Avent, ''Cestyll Tywysogion Gwynedd'' (Caerdydd, 1983). ISBN 978-0-11671-134-2
*Paul R. Davies, ''Castles of the Welsh Princes'' (Abertawe, 1988). ISBN 978-0-86243-970-5
*J. Beverley Smith, ''Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru'' (Caerdydd, 1986). ISBN 978-0-70830-884-4
 
{{Cestyll Tywysogion Gwynedd}}
140

golygiad