Demetae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
creu
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:CymruLlwythi.PNG|right|thumb|250px|Llwythau Cymru tua 48 OC. Nid oes sicrwydd am yr union ffiniau.]]
 
Roedd y '''Demetae''' yn [[Llwythau Celtaidd Cymru|llwyth Celtaidd]] adeg yr [[Oes Haearn]] a chyfnod y [[Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]]. Roedd eu tiriogaeth yn ne-orllewin [[Cymru]], yn cyfateb yn fras i [[Sir Benfro]], [[Sir Gaerfyrddin]] a [[Ceredigion]].
 
Pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid i'r ardal tua 48 O.C. nid ymddengys fod y Demetae wedi gwrthwynebu rhyw lawer. Nid oes cofnod o'r Rhufeiniaid yn ymladd yn eu herbyn, yn wahanol iawn i'w cymdogion, y [[Silwriaid]] i'r dwyrain a'r [[Ordoficiaid]] i'r gogledd. Sefydlwyd canolfan i'r llwyth yn ''Maridunum'' neu ''Moridunum'', [[Caerfyrddin]] heddiw, lle mae cloddio wedi datgelu tref fechan yn ogystal a'r gaer Rufeinig.