Caradog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
creu
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Erbyn hyn yr oedd Cunobelinus wedi marw, a Charadog a’i frawd [[Togodumnus]] fu’n arwain lluoedd y Catuvellauni yn erbyn byddin [[Aulus Plautius]]. Gorchfygwyd hwy gan y Rhufeiniaid mewn dwy frwydr ar [[Afon Medway]] ac Afon Tafwys a chymerodd y llengoedd feddiant ar diriogaethau’r llwyth. Lladdwyd Togodumnus yn y brwydro, ond dihangodd Caradog tua’r gorllewin.
 
Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig [[Tacitus]], daeth Caradog yn arweinydd rhyfel llwyth y [[Silwriaid]] yn ne-ddwyrain Cymru, gan arwain y brwydro yn erbyn y Rhufeiniaid. Yn ddiweddarach symudodd I diriogaeth yr [[Ordoficiaid]] ymhellach I’ri’r gogledd. Yn y flwyddyn [[51]] bu brwydr rhwng Caradog a’i fyddin o Ordoficiaid a Silwriaid a’r llengoedd Rhufeinig dan [[Publius Ostorius Scapula]], oedd wedi dilyn Aulus Plautius fel [[Rhestr Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain|llywodraethwr Prydain]]. Roedd y frwydr yn rhywle yn nhiriogaeth yr Ordoficiaid, ond ni wyddir ymhle. Gall fod yn rhywle yn agos i’r ffin bresennol rhwng Cymru a Lloegr, efallai ger [[Afon Hafren]]. Yn olôl disgrifiad Tacitus roedd Caradog wedi dewis safle amddiffynnol gref, gyda mynyddoedd o’i chwmpas ac afon anodd ei rhydio o’I blaen. Fodd bynnag gorchfygwyd ef gan Scapula, gyda lladdfa fawr. Cymerwyd gwraig a merch Caradog yn garcharorion, ac ildiodd ei frodyr I’r Rhufeiniaid, ond llwyddodd Caradog Ii ddianc ac aeth i diriogaeth llwyth y [[Brigantes]] yng ngogledd Lloegr. Nid oedd [[Cartimandua]], brenhines y Brigantiaid, yn barod i wrthwynebu Rhufain, a throsglwyddodd Caradog iddynt mewn cadwynau.
 
Cymerwyd Caradog i Rufain fel carcharor, lle rhoddwyd caniatad iddo roi araith I’r [[Senedd Rhufain|Senedd]]. Ymddengys iddo wneud argraff ffafriol, oherwydd rhyddhawyd ef gan Claudius a chaniatawyd iddo fyw yn Rhufain. Yn olôl yr hanesydd [[Dio Cassius]], pan welodd adeiladau Rhufain holodd “Sut y mae arnoch chi felly, sy’n berchen cymaint, eisiau ein cytiau ni?”
 
Mae llawysgrif achau Harleian MS 3859 (tua 1100) yn cynnwys "Caratauc map Cinbelin map Teuhant". Nid yw [[Sieffre o Fynwy]] yn rhoi enw Caradog, ond mae’n cyfeirio yn Lladin at Arviragus, mab ieuengaf Kymbelinus, sy’n ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid wedi marwolaeth ei frawd hynaf Guiderius. Mewn cyfeithiadau [[Cymraeg]] o Sieffre, rhoir ei enw fel Gweirydd fab Cynfelyn, a’i frawd fel Gwydyr.
 
Ni does sicrwydd a oes cysylltiad rhwng y Caradog yma a Caradog fab Bran, sy’n gymeriad yn chwedl Branwen ferch Llyr yn y [[Mabinogi]] fel mab [[Bran FendigaidBendigeidfran]], sy’n cael ei adael i reoli Prydain tra mae ei dad yn mynd ar ymgyrch i [[Iwerddon]]. Dywedir iddo gael ei ddiorseddu gan [[Caswallawn]], sy’n cyfateb i Cassivellaunus, oedd yn byw ganrif ynghynt na Charadog.
 
[[Categori:Llwythau Celtaidd Cymru]]