Demetae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
nodyn
Llinell 5:
Pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid i'r ardal tua 48 O.C. nid ymddengys fod y Demetae wedi gwrthwynebu rhyw lawer. Nid oes cofnod o'r Rhufeiniaid yn ymladd yn eu herbyn, yn wahanol iawn i'w cymdogion, y [[Silwriaid]] i'r dwyrain a'r [[Ordoficiaid]] i'r gogledd. Sefydlwyd canolfan i'r llwyth yn ''Maridunum'' neu ''Moridunum'', [[Caerfyrddin]] heddiw, lle mae cloddio wedi datgelu tref fechan yn ogystal a'r gaer Rufeinig.
 
Rhoddodd y llwyth ei enw i deyrnas [[Teyrnas Dyfed|Dyfed]] yn nes ymlaen, er bod y Ddyfed hanesyddol yn llai na thiriogaeth y llwyth. Efallai fod gan y llwyth gysylltiadau ad [[Iwerddon]]; yn sicr yr oedd teulu brenhinol teyrnas Dyfed yn nes ymlaen o dras Gwyddelig, ac mae nifer fawr o arysgrifau [[Ogam]] mewn [[Gwyddeleg]] wedi eu darganfod yn yr ardal yma, er nod y rhain yn deillio o'r cyfnod wedi ymadawiad y Rhufeiniaid. Yr oedd teyrnas [[Deheubarth]], a ffurfiwyd yn llawr diweddarach, yn cyfateb yn agos i ffiniau'r llwyth yma.
 
{{Llwythau Celtaidd Cymru}}
 
[[Categori:Llwythau Celtaidd Cymru]]