Demetae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd y '''Demetae''' yn [[Llwythau Celtaidd Cymru|llwyth Celtaidd]] adeg yr [[Oes Haearn]] a chyfnod y [[Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]]. Roedd eu tiriogaeth yn ne-orllewin [[Cymru]], yn cyfateb yn fras i [[Sir Benfro]], [[Sir Gaerfyrddin]] a [[Ceredigion]].
 
Pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid i'r ardal tua 48 O.C. nid ymddengys fod y Demetae wedi gwrthwynebu rhyw lawer. Nid oes cofnod o'r Rhufeiniaid yn ymladd yn eu herbyn, yn wahanol iawn i'w cymdogion, y [[Silwriaid]] i'r dwyrain a'r [[Ordoficiaid]] i'r gogledd. Sefydlwyd canolfan i'r llwyth ynym ''[[Maridunum]]'' (neu ''Moridunum'',: [[Caerfyrddin]] heddiw), lle mae cloddio wedi datgelu tref fechan yn ogystal a'r [[Caerau Rhufeinig Cymru|gaer Rufeinig]].
 
Rhoddodd y llwyth ei enw i deyrnas [[Teyrnas Dyfed|Dyfed]] yn nes ymlaen, er bod y Ddyfed hanesyddol yn llai na thiriogaeth y llwyth. Efallai fod gan y llwyth gysylltiadau ag [[Iwerddon]]; yn sicr yr oedd teulu brenhinol teyrnas Dyfed yn nes ymlaen o dras Gwyddelig, ac mae nifer fawr o arysgrifau [[Ogam]] mewn [[Gwyddeleg]] wedi eu darganfod yn yr ardal yma, er fod y rhain yn deillio o'r cyfnod wedi ymadawiad y Rhufeiniaid. Yr oedd teyrnas [[Deheubarth]], a ffurfiwyd yn llawer diweddarach, yn cyfateb yn agos i ffiniau'r llwyth yma.