Tudweiliog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Marthuws (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Marthuws (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 60:
<br />
=Hanes=
Mae cyfeiriad at Dudweiliog fel pentref bach yn ôl yn y C13, gyda'i heglwys yn gyrchfan ar ffordd y pererin yn Llŷn. Roedd Tudweiliog ar y pryd yn drefgordd o fewn Morfa oyng fewn [[cwmwd|nghwmwd]] [[Cymydmaen]]. <ref>Historic Landscape Characterisation Llŷn - Area 21 The Western Coastal Plain from Llangwnadl to Porthdinllaen PRN 33494; Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd/ Gwynedd Archeological Trust </ref> Mae hanes y pentref yng nghlwm a thirfeiddianwr mawr hanesyddol yr ardal, sef Plas Cefnamwlch.
 
<br />
 
= Cefnamwlch =
Mae plasdy ac ystâd Cefnamwlch wedi chwarae rhan arwyddocaol yn natblygiad y pentref ar hyd y canrifoedd, a gellir gweld ei ddylanwad ar nifer o'r adeiladau Tudweiliog. Un o'r adeiladau hyn yw eglwys Sant Cwyfan a'i phenseirniwyd gan Syr George Gilbert Scott yn 1849, ar safle cyn -addoldy a sonwyd amdano'n 1254.<ref>{{Cite web|url=|title=Tudweiliog, Pwllheli, Gwynedd|date=|access-date=29.05.2020|website=Penllyn.com|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Mae'n bosib y daw tarddiad yr enw 'Cefnamwlch' o'r ffaith fod y plasdy'n cefnu ar fynydd o'r un enw a fod i'r mynydd hwnnw fwlch ar ei gopa, - a dyma'r enw 'Cefn-ar-Fwlch'.<ref>{{Cite news|url=www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/safle/trefi/pages/enwau_llyn.shtml|title=Enwau Llefydd Llyn|last=|first=Enwau Llefydd Llyn|date=14 Tachwedd 2014|work=|archive-url=|archive-date=|dead-url=|access-date=27.06.2020}}</ref>
 
Mae'r plasdy ei hun wedi ei leoli milltir i ffwrdd o ganol y pentref ac mae'r rhannau hynaf y plasdy presennol yn dyddio o'r 17C hwyr i'r 18C cynnar. Nid hwn oedd y plasdy gwreiddol, safai hwnnw mewn lleoliad sydd rŵan yn rhan o'r gerddi, a dyddiai o'r 15C hwyr nes iddo gael ei ddisodli gan y plasdy presennol a'i dynnu i lawr .Mae'r porthdy gwreiddiol a wasanaethai'r plasdy gwreiddiol yn dal i sefyll.
 
Bu Cefnamwlch yn gartref i deulu blaenllaw Griffith o Lŷn a oedd yn a dylanwad mawr yng ngwleidyddiaeth Sir Gaernarfon ar y pryd.<ref>{{Cite web|url=|title=(1686) Cefnamwlch|date=|access-date=28.05.2020|website=crwydro.co.uk/Edern/Penllech/seciwlar-secular/1686-cefnamwlch/|last=|first=(1686)Cefnamwlch|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
<br />
= Ellen Owen =
 
= Beudy Bigin =
Tua dwy filltir allan o bentref Tudweilog i gyfeiriad y de daw fforch yn y lôn lle bu i'r B4417 droi am Langwnnadl a lôn arall - 'Lôn Trigwm' i gyfeiriad Sarn Mellteyrn. Ychydig fedrau ar hyd Lôn Trigwm o'r cyffordd bach yma mae olion hen chwarel, carreg filltir ac arwydd-bost go newydd mewn ffurf hen ffasiwn. Heblaw am hynny does fawr o ddim i'w weld yn arbennig yma heblaw am yr olygfa odidog o Fôr Iwerddonô a thiroedd amaethyddol gwastad Penllech i'r gorllewin a chychwyniad coed Cefnamwlch ychydig ymhellach ymlaen i fyny Lôn Trigwm i gyfeiriad Cromlech Cefnamwlch. Ond, i lawer heddiw byddai syndod i wybod fod enw i'r cyffordd bach yma - Beudy Bigin.
[[Delwedd:Llun Beudy Bigin.jpg|bawd|Llun o Beudy Bigin, Tudweiliog. ]]
[[Delwedd:Llun Lon Trigwm.jpg|bawd|Yr olygfa drwy Goed Cefnamwlch i gyfeiriad Beudy Bigin, Tudweiliog.]]
Deallir ar un adeg fod beudy o ryw ddisgrifiad o leiaf yn sefyll yma, ac ystyr 'Bigin', - wel, mae ar ddeall mai gwraidd yr enw yw'r gair Saesneg ''<nowiki/>'bing''' sy'n dynodi 'llwybr cul o fewn beudy' <ref>{{Cite news|url=www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/safle/trefi/pages/enwau_llyn.shtml|title=Enwau Llefydd Llyn|last=|first=Enwau Llefydd Llyn|date=|work=|archive-url=|archive-date=17 Tachwedd 2014|dead-url=|access-date=27.06.2020}}</ref> Er nad oes adeilad i'w weld ym Meudy Bigin erbyn heddiw, mae tystiolaeth bod adeilad - neu'n hytrach ''adeiladau'' wedi bodoli yno ar un oes. O hen fap o'r Arolwg Ordnans (1839-1841) gwelwn dystiolaeth am fodolaeth o leiaf tri adeilad yn agos iawn i'r cyffordd fach <ref>{{Cite book|title=Old Series, Map 123, Lleyn Peninsula|last=|first=Cassini Maps|publisher=Cassini Publishing Ltd|year=|isbn=978-1-84736-046-5|location=UK|pages=}}</ref>, ai un o'r adeiladau yma oedd y 'beudy' gwreiddiol tybed?
 
= Ellen Owen =
<references />
Tra ei bod hi'n hawdd ddigon i basio trwy Tudweiliog heb feddwl ddwywaith am ddim o bwys a allai fod wedi digwydd yno erioed nac am neb o bwys a allai wedi cael eu magu yno, os ewch i fynwent Sant Cwyfan yng nghanol y pentref fe ddowch o hyd i garreg fedd marmor nodweddiadol ac arni enw gwr a gwraig o'r enw Thomas ac Ellen Owen. Magwyd y ddau yn Nhudweiliog yng nghanol yr 19G, yntau i deulu'r Felin, a hithau i deulu a drigai'n Mhwllgwd. Bu i Thomas gychwyn ei yrfa ar y môr a daeth yn gapten, a bu iddo briodi Ellen a buan y bu i'r ddau drafeulio i borthladdoedd Ewrop gyda'u gilydd. Os nad yw hyn yn ddigon o syndod fel y roedd yn barod, y peth sy' gwneud yr hanes hyn yn fwy arbennig yw fel y bu i Ellen ymuno a'i gwr ar fordaith hir o gwmpas y byd mewn llong o'r enw'r ''Cambrian Monarch'' gan adael o Gasnewydd ar y deuddegfed o Fai 1881 gan gyrraedd Sydney, Awstralia erbyn Awst y deuddegfed. O Awstralia, hwyliodd y Cambrian Monarch a'i chriw ymlaen ar draws y Môr Tawel i San Francisco'n yr UDA. Yr hyn sy'n wyrthiol am eu siwrnai yn ôl o San Francisco i Limerick yn yr Iwerddon erbyn 13fed o Fehefin 1883 wedyn ydy'r ffaith i Ellen gadw dyddiadur o'i hantur, - rhywbeth prin iawn i'w gael yn y Gymraeg, a gan wraig capten o'r cyfnod. Dyma ran o'r hyn a ysgrifennodd Ellen Owen o'r amser yr hwyliodd y Cambrian Monarch o gwmpas yr Horn, rhwng cyfandiroedd De America ac Antartica ar 25/03/1882;<blockquote>"Dydd Sadwrn. 25 March 1882