Tudweiliog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Marthuws (sgwrs | cyfraniadau)
newidiadau bach
Marthuws (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Ellen Owen: ychwanegu at hanes Ellen.
Llinell 83:
Tra ei bod hi'n hawdd ddigon i basio trwy Tudweiliog heb feddwl ddwywaith am ddim o bwys a allai fod wedi digwydd yno erioed nac am neb o bwys a allai wedi cael eu magu yno, os ewch i fynwent Sant Cwyfan yng nghanol y pentref fe ddowch o hyd i garreg fedd marmor nodweddiadol ac arni enw gwr a gwraig o'r enw Thomas ac Ellen Owen. Magwyd y ddau yn Nhudweiliog yng nghanol yr 19G, yntau i deulu'r Felin, a hithau i deulu a drigai'n Mhwllgwd. Bu i Thomas gychwyn ei yrfa ar y môr a daeth yn gapten, a bu iddo briodi Ellen a buan y bu i'r ddau drafeulio i borthladdoedd Ewrop gyda'u gilydd. Os nad yw hyn yn ddigon o syndod fel y roedd yn barod, y peth sy' gwneud yr hanes hyn yn fwy arbennig yw fel y bu i Ellen ymuno a'i gwr ar fordaith hir o gwmpas y byd mewn llong o'r enw'r ''Cambrian Monarch'' gan adael o Gasnewydd ar y deuddegfed o Fai 1881 gan gyrraedd Sydney, Awstralia erbyn Awst y deuddegfed. O Awstralia, hwyliodd y Cambrian Monarch a'i chriw ymlaen ar draws y Môr Tawel i San Francisco'n yr UDA. Yr hyn sy'n wyrthiol am eu siwrnai yn ôl o San Francisco i Limerick yn yr Iwerddon erbyn 13fed o Fehefin 1883 wedyn ydy'r ffaith i Ellen gadw dyddiadur o'i hantur, - rhywbeth prin iawn i'w gael yn y Gymraeg, a gan wraig capten o'r cyfnod. Dyma ran o'r hyn a ysgrifennodd Ellen Owen o'r amser yr hwyliodd y Cambrian Monarch o gwmpas yr Horn, rhwng cyfandiroedd De America ac Antartica ar 25/03/1882;<blockquote>"Dydd Sadwrn. 25 March 1882
 
Yr ydym wedi cael dywrnod da er dou. y mae y Brenhin Mawr yn dda iawn wrthym yn a'i rhagluniaeth. 7 wythnos i heddiw sydd ers pan y darfym hwylio ag yr ydym wedi pasio Cape Horn y prutnhawn heddiw. y mae yn byr our fel ag y bydd hi yma bob amser ar y flwyddyn. yr ydym yn disgwyl y gwnawn i bassage go dda adref. yr ydym wedi dyfod o Frisgo i Cape Horn yn gynt o 9 dwyrnod nag y daeson nhw yr tro or-blaen. yr hyn euthom er dou 220 Millter." <ref>{{Cite book|title=Gwraig y Capten|last=Eames|first=Aled|publisher=Gwasanaeth Archifau Gwynedd|year=1988|isbn=090133738|location=Gwasanaeth Archifau Gwynedd|pages=86}}</ref></blockquote>Yn dilyn eu dychweliant diogel yn ôl i Gymru, llwyddodd Ellen a Thomas i brynu bwthyn bach rhwng Brynffynon a Thyddyn Mawr yn Nhudweilog, sef Cors Iago. Bu i Ellen son am ei gobeithion am gael Cors Iago'n ei dyddiadur wrth iddi ddychwelyd o San Francisco ac ar ôl llwyddo i'w brynu fe adeiladwyd tŷ o'r newydd yn agos iddo ganddynt, - sef Minafon, sy'n bodoli hyd heddiw <ref>{{Cite book|title=Gwraig y Capten|last=Eames|first=Aled|publisher=Gwasanaeth Archifau Gwynedd|year=1988|isbn=0901337358|location=|pages=108}}</ref>
[[Delwedd:Ellen Owen.jpg|bawd|Llyfr Aled Eames, yn olrhan hanes dyddiadur Ellen Owen o Dudweilog ar ei mordaith adref o San Francisco. Ar y clawr mae llun ohoni a'i gwr, Capten Thomas Owen, hefyd o Dudweiliog.]]
Ellen Owen, ganwyd yn 1845, a fu farw 20 Chwefror 1931 yn 85 mlwydd oed. <blockquote></blockquote>
 
= Cysylltiad Tudweiliog â hanes yr UDA =