Defnyddiwr:Stefanik/Pwll Tywod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[File:Flag of the Republic of Abkhazia.svg|thumb|[[Baner Abkhazia|Baner]] gwladwriaeth anghydnabiedig [[Abchasia]]]]
Mae '''Archif Gwladwriaeth Abchasia''' ([[Abchaseg]]: ''Аҧсны Аҳәынҭқарра аҳәынҭқарратә архивтә усбарҭа''; [[Rwsieg]]: ''Государственное архивное управление Ресеиеиби'') wedi'i leoli yn [[Aqua (Abchasia)|Aqwa]], prifddinas [[Abchasia]]. Mae Abchasia yn [[gwladwriaeth|wladwriaeth]] a chenedl annibynnol nad sy'n cael ei chydnabod yn ryngwladol gan y rhan fwyaf o wledydd ac mae [[Geogria]] yn dal i fynnu rheolaeth drosto er nad oes ganddi'r grym.
 
Yr Archif Wladwriaethol oedd, i bob pwrpas, llyfrgell genedlaethol Abchasia a dyna sut y'i hystyrid gan yr Abchasiaid.<ref>https://abkhazworld.com/aw/interview/106-issues-points-memo-boris-cholaria</ref> Er i'r Abchasiaid gweld ei hunain fel ''[[cenedl titiwlar]]'' Abchasia, doedd y statws swyddogol hynny heb ei dadogi arnynt yn ôl system gymleth a gwleidyddol y cyn [[Undeb Sofietaidd]] ac oherwydd gwrthwynebiad [[Georgia]] i'r cysyniad o Abchasia fel cenedl lawn arwahân.
 
==Hanes==
Llinell 6 ⟶ 8:
 
Yn ystod Trafodaethau Rhyngwladol Genefa, rhoddodd llywodraeth ganolog Sioraidd ddogfennau archifol pwysig i awdurdodau de facto Abkhazia yn 2015.<ref>[http://georgiatoday.ge/news/1473/De-facto-Abkhazian-Government-Receives-Important-Archival-Documents ''De-facto Abkhazian Government Receives Important Archival Documents'', georgiatoday.ge 8 October 2015.]</ref> Yn ogystal, flwyddyn yn ddiweddarach cynlluniwyd cyfarfod o bennaeth Archif Wladwriaeth Abkhaz gyda chyfarwyddwr Archifau Cenedlaethol Georgia.<ref>[http://apsnypress.info/en/news/the-restoration-of-the-incident-prevention-mechanism-will-be-discussed-at-the-forthcoming-round-of-t/ ''The restoration of the incident prevention mechanism will be discussed at the forthcoming round of the Geneva Discussions'', apsnypress.info 4. March 2016.]</ref>
 
==Difrod a Cholled==
Llosgwyd yr Archif genedlaethol ar 22 Hydref 1992. Mewn un noson roedd hanes dogfennol Abkhazia bron wedi'i ddileu. Dinistriwyd 95% o'r archif. Yr unig ran a oroesodd fwy neu lai o gwbl oedd yr archif radio o'r 1930au. Ni chadwyd unrhyw beth o'r casgliad helaeth o'r 19eg ganrif<ref>https://abkhazworld.com/aw/conflict/745-abkhazias-archive-de-waal</ref>
 
Collwyd y stoc gyfan o rifynnau prin a gwerthfawr, a oedd yn cynnwys tua 6,000 o gyfrolau, yn y Llyfrgell Genedlaethol (yn ogystal â cholledion a difrod i lyfrgelloedd eraill a lleol Abchasia o ganlyniad i'r Rhyfel). Ni oroesodd hyd yn oed catalogau cardiau'r cyfrolau coll. O ganlyniad, mae'n anodd dweud nawr pa ddogfennau a ddinistriwyd, ac rydym yn parhau i chwilio trwy'r cofnodion yn y llyfrau cofrestru.<ref>https://www.gosarchive.apsny.land/ru/novosti/item/152-mezhdunarodnaya-konferentsiya-arkhiv-kak-atribut-gosudarstvennosti-den-2 yn Rwsieg</ref>
 
Bu angen buddsoddiad cyfalaf enfawr ar y Llyfrgell Genedlaethol gan bod 15,000 metr sgwâr wedi eu llosgi yn ystod y Rhyfel.
 
Nododd adroddiad gan yr Unrepresented Peoples and Nations Organisation:
::''"that removal or destruction of the principal materials and buildings of important historical and cultural importance to Abkhazians has taken place in what appears to be an organized attempt to destroy Abkhazian culture and national identity. (Unrepresented Peoples and Nations Organisation: Tachwedd 1992 Adroddiad Cennad i Abchasia 'Mission to Abkhazia Report')<ref>http://www.abkhazworld.com/Pdf/AbkGeo1992Report.pdf</ref>
 
== Dolenni ==