80,528
golygiad
B (wedi symud Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) 2010 i Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011) |
(diweddaru) |
||
[[Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] yw '''Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011''' ([[
Cyflwynwyd y mesur gan [[Alun Ffred Jones]] [[Aelod Cynulliad|AC]], y Gweinidog dros Dreftadaeth, ar 4 Mawrth 2010.<ref name="Cynulliad"
== Hanes ==
Ar ôl i'r [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] a [[Plaid Cymru|Phlaid Cymru]] ffurfio llywodraeth glymblaid [[Cymru'n Un]] yng Ngorffennaf 2007 roedd addewid yn eu cytundeb i greu "deddf newydd i gadarnhau statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg ac estyn hawliau i ddefnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg". Yn Ionawr 2009 dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru [[Paul Murphy]] y gallai'r broses ar gyfer cais gan [[Llywodraeth Cynulliad Cymru|Lywodraeth y Cynulliad]] am yr hawl i ddeddfu ynghylch yr iaith Gymraeg fod yn "stormus", yn debyg yn sgîl pryderon y gallai adrannau [[llywodraeth y Deyrnas Unedig]] gael eu dirwyo am beidio â defnyddio digon o Gymraeg ac amheuon nifer o [[Tŷ'r Cyffredin (DU)|Aelodau Seneddol]] Llafur am estyn cydraddoldeb ieithyddol y tu hwnt i'r sector cyhoeddus.<ref>{{dyf gwe |url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7820000/newsid_7829300/7829303.stm |teitl=Iaith: 'Cyfnod stormus i ddod' |dyddiad=15 Ionawr 2009 |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiadcyrchiad=7 Mawrth 2010 }}</ref>
=== Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009 ===
Gosododd Alun Ffred Jones [[Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol]] (GCD) ar 2 Chwefror 2009 i "ehangu cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud cyfreithiau newydd i Gymru drwy Fesurau ynglŷn â'r iaith Gymraeg".<ref>{{dyf gwe |url=http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-legislative-competence-orders/bus-legislation-lco-2009-no10.htm |teitl=Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009 |cyhoeddwr=[[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] |dyddiadcyrchiad=12 Mawrth 2010 }}</ref> Sefydlwyd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 ar 4 Chwefror i ystyried y GCD.
{{eginyn-adran}}
== Proses ==
Ar 4 Mawrth 2010 datganodd [[yr Arglwydd Elis-Thomas]], [[Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Llywydd y Cynulliad]], bod darpariaethau'r mesur arfaethedig o fewn cymhwysedd deddfwriaethol [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]].<ref>{{dyf gwe |url=http://www.cynulliadcymru.org/ms-ld7944-pos-e.pdf |teitl=Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol—Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) |dyddiad=4 Mawrth 2010 |cyhoeddwr=[[Yr Arglwydd Elis-Thomas]], [[Llywydd y Cynulliad]], [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] |dyddiadcyrchiad=7 Mawrth 2010 }}</ref>
== Ymateb ==
{{blwch dyfyniad |width=350px |align=right |quote="R'yn ni am i’r iaith gael ei thrin fel cydraddoldebau eraill lle mae unigolion yn cael hawliau sylfaenol. Ac r'yn ni eisiau i'r Mesur ffitio i mewn gyda chyfundrefn hawliau ryngwladol. Mae pobol yn delio gyda materion fel hyn ar draws y byd." |source=Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg<ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/UI/News/ViewNewsDetails.aspx?ID=10383 |teitl=Ymateb - ‘Tŷ ar y tywod’ yw’r Mesur Iaith |dyddiad=4 Mawrth 2010 |cyhoeddwr=[[Golwg|Golwg360]] |dyddiadcyrchiad=7 Mawrth 2010 }}</ref> }}
Croesawyd cyhoeddiad y mesur arfaethedig fel "diwrnod hanesyddol" gan [[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg|Gymdeithas yr Iaith Gymraeg]], er disgrifiodd y mudiad hepgor sôn am [[hawliau iaith|hawliau]] o'r mesur "fel [[Dameg yr Adeiladwyr Call a Ffôl|adeiladu tŷ ar dywod]]".<ref>{{dyf gwe |url=http://cymdeithas.org/2010/03/04/ein_ymateb_ir_mesur_iaith_gymraeg.html |cyhoeddwr=[[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]] |teitl=Ein ymateb i'r Mesur Iaith Gymraeg |dyddiad=4 Mawrth 2010 |dyddiadcyrchiad=7 Mawrth 2010 }}</ref> Ar 10 Mawrth anfonodd Cymdeithas lythyr at [[Carwyn Jones]], Prif Weinidog Cymru, yn gwneud cwyn swyddogol am y mesur arfaethedig, gan gyhuddo bod Llywodraeth y Cynulliad wedi camarwain y cyhoedd trwy honni bydd y mesur yn sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg.<ref>{{dyf gwe |url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8550000/newsid_8559100/8559140.stm |teitl=Cwyn Cymdeithas at y Prif Weinidog am y mesur iaith |dyddiad=10 Mawrth 2010 |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiadcyrchiad=13 Mawrth 2010 }}</ref>
== Gweler hefyd ==
* [[Deddf yr Iaith Gymraeg 1967]]
* [[Deddf yr Iaith Gymraeg 1993]]
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
== Dolenni allanol ==
* [http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-third-assembly/bus-legislation-third-assembly/bus-leg-measures/business-legislation-measures-wl.htm Mesur
;Testun y mesur
* [http://www.
* [http://www.opsi.gov.uk/legislation/wales/mwa2011/pdf/mwa_20110001_we.pdf Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011] {{cyswlltPDF}}
* [http://www.opsi.gov.uk/legislation/wales/mwa2011/pdf/mwa_20110001_mi.pdf Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011/Welsh Language (Wales) Measure 2011 (dwyieithog)] {{cyswlltPDF}}
[[Category:2010 yng Nghymru]]
[[Categori:
[[Categori:Hanes y Gymraeg]]
[[Categori:Hawliau iaith]]
|