Rwmaneg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Moldofa, Transnistria
+ ar wasgar
Llinell 18:
== Moldofeg ==
Yn ystod y cyfnod [[Yr Undeb Sofietaidd|Sofietaidd]] ym [[Moldofa]], cyfeiriwyd at yr iaith frodorol fel '''Moldofeg''' (лимба молдовеняскэ) yn hytrach na Rwmaneg, ac fe'i hysgrifennwyd gyda'r [[Yr wyddor Gyrilig|wyddor Gyrilig]] yn hytrach na'r [[Yr wyddor Ladin|wyddor Ladin]]. O [[1989]], yr wyddor Ladin sy'n cael ei defnyddio yn Moldofa fel yn Rwmania, ac fe ddefnyddir y ddau enw, Rwmaneg a Moldofeg, i gyfeirio at yr un iaith. Yn [[Transnistria]] er hynny, ble mae'n un o'r ieithoedd swyddogol, enw'r iaith yw Moldofeg, a defnyddir yr wyddor Gyrilig o hyd.
 
== Tu hwnt i Rwmania a Moldofa ==
Siaradir Rwmaneg gan leiafrif yn [[Serbia]], er enghraifft yn ardal [[Vojvodina]].
 
Oherwydd mudo, fe'i siaradir hefyd yn [[Israel]], yn ogystal ac yn [[yr Eidal]], [[Ffrainc]], [[Sbaen]], a [[Portiwgal]].
 
Yng nghyfnod [[Ceaușescu]] yn Rwmania, daeth llawer o bobl o'r [[Y Dwyrain Canol|Dwyrain Canol]] i astudio yn yr wlad - mae'n debyg felly fod nifer sydd wedi symud yn ôl i [[Libanus]], [[Syria]], [[Palesteina]], [[Irac]], [[Yr Aifft]], [[Swdan]] a [[Gwlad Iorddonen]] yn medru'r iaith o hyd.
 
== Ymadroddion cyffredin ==