Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Oxford (sgwrs | cyfraniadau)
Undo - although the language is rather over my head, the references to Dulux and B&Q suggest to me that there is something rather dubious here. Many apologies if I'm wrong.
Llinell 21:
=== Y Cadeirio ===
 
Enillwyd y gadair gan y gerdd '''Clawdd Terfyn''' gan "Penrhynwr", enw barddol Nicholas John Edward Lawrence Smythe o Loegr yn wreiddiol. Mae'r gerdd am [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]], a adeiladwyd yn yr wythfed ganrif gan y brenin Offa o Fercia i gadw pobl Powys draw, ac am ei ddymuniadau am amddiffyniad yn eu herbyn. Dyma'r pennill cyntaf:
 
:Dynion blinderus, anfedrys, ynfydion,
:Rhy hoff o'r defaid a'r heffrod dofion,
:Clawdd, bydd yn fur i'r gelyn celwyddog,
:Hen glowniau â'u chariadon gwlanog.
 
Dywedodd mewn cyfweliad i S4C ar ôl y seremoni wobrwyo: "Dros gyfnod rhy hir, mae nifer o feirdd o Gymry Cymraeg wedi defnyddio eu gwaith er mwyn sarhau'r Saeson, gyda llinellau megis 'Lloegr a'i llu yn llygru Llŷn'. Er fy mod yn byw yng Nghymru ac yn dysgu’r Gymraeg, Sais gwladgarol ydw i, ac dwi ddim yn barod i weld ymosodiadau barddonol ar fy ngwlad heb ryw fath o ymateb. Mae wedi bod yn hen bryd i'r Saeson brofi ein bod ni'n gallu dial a defnyddio barddoniaeth dros ryfel seicolegol, hyd yn oed y farddoniaeth Gymraeg, ac dwi'n dal i weithio ar fy ''magnwm opws'' barddonol niwclear i'w lawnsio flwyddyn nesaf ym Mro Morgannwg. Dwi'n ddiolchgar i'r beirniaid i gyd am ein bod nhw wedi cael y dewrder i wneud y penderfyniad dadleuol i roi cydnabyddiaeth i'm cysyniad o frwydr anarfog senoffobig drwy gyfrwng y farddoniaeth."
 
Ymatebodd llefarydd ar ran y beirniaid: "Dwi'n ymwybodol y gawn ni dderbyn mymryn o feirniadaeth am y penderfyniad i wobrwyo i'r bardd hwn, ac mae wedi bod tipyn o ddadl amdano yn y wasg Gymraeg. Rydym yn apelio i bobl am ddealltwriaeth a thawelwch, a hoffem egluro ein bod ni wedi ei ddewis dim ond er mwyn arddangos y math o nonsens diflas y gall ddibynnu ar y Saeson i'w gynhyrchu, a'u hanallu i sylweddoli ein bod ni i gyd wedi clywed yr hen 'jociau' am ddefaid tua mil gwaith erbyn hyn. Byddwn yn defnyddio'r stac o ffeifars a dderbyniwyd oddiwrth Mr Smythe (Penrhynwr) mewn bag papur brown i brynu paent gwyrdd yn B&Q i'w daflu dros y ffin (neu'r clawdd), a nid dros hunan-gyfoethogiad."
 
Dywedodd staff B&Q Wrecsam eu bod nhw wedi rhedeg allan o baent gwyrdd, ond cadarnhaodd ei fod ar gael yng nghangen Caer, neu fedrent werthu tun o Dulux Apple White, sy'n "probably close enough".
 
=== Y Fedal Ryddiaith ===