Fluxus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Gwybodlen Sefydliad |enw = Fluxus |delwedd = |border_delwedd = |maint = |pennawd = |map =...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:46, 3 Gorffennaf 2020

Roedd Fluxus yn fudiad celf arbrofol yn y 1960au a 1970au. Roedd yn grŵp anffurfiol o artistiaid, beirdd a cherddorion ar draws y byd. Cynhaliwyd amrywiaeth fawr o weithgareddau, cyngherddau a digwyddiadau anffurfiol “Happenings”.

Fluxus
Sefydlwyd1960
SefydlyddGeorge Maciunas
Cylchfa amser1960au-1970au
MathMudiad Celfyddydol Avant-garde
Pobl blaenllawJoseph Beuys, George Brecht, John Cale, Robert Filliou, Al Hansen, Dick Higgins, Bengt af Klintberg, Alison Knowles, Addi Køpcke, Yoko Ono, Nam June Paik, Ben Patterson, Daniel Spoerri, Wolf Vostell.

Roedd y gwaith a digwyddiadau’r grŵp yn aml yn brofoclyd, chwyldroadol ac am herio’r byd celf sefydliadol. Ysbrydolwyd y mudiad Fluxus gan Marcel Duchamp a’r mudiad celfyddydol Dada yn y 1920au, yn arbennig gan eu syniad o ‘anti-art’. [1]

Mae’r enw Fluxus yn adlewyrchu’r syniad eu gweithgareddau heb fod yn llonydd, ond yn llifo mewn newid parhaus.

Ymhlith yr aelodau amlwg oedd y Cymro John Cale, y cyn Beatle Yoko Ono a Joseph Beuys.

Ffurfiwyd Fluxus yn 1960 gan yr arlunydd George Maciunas. Daeth yr enw o gylchgrawn am gerddoriaeth arbrofol ac artistiaid wedi’u hysbrydoli gan y cyfansoddwr John Cage.

Roedd digwyddiad cyntaf Fluxus mewn oriel gelf yn Efrog Newydd yn 1960, gyda gwyliau Fluxus yn cael eu cynnal yn Ewrop yn 1962. Yn ystod y pymtheg mlynedd nesaf daeth Efrog Newydd, Yr Almaen a Japan yn ganolfannau gweithgareddau’r grŵp.

Doedd dim un steil penodol yn gysylltiedig â Fluxus, yn hytrach roedd y grŵp yn nodweddiadol am amrywiaeth eang o gyfryngau yn aml gydag agwedd a ‘DIY’ gan ddefnyddio pa bynnag anodau, pobl a lleoliad oedd digwydd bod ar gael ar y pryd ac yn agored i bawb. Y cymryd rhan, creadigrwydd, proses a chreu trwy ddamwain yn cael eu hystyried yn bwysicach na’r canlyniad terfynol bwriadol. [2][3]

Roedd Fluxus hefyd yn nodweddiadol am hiwmor, fod yn wrth-fasnachol, democrataidd ac yn annog cydweithrediad rhwng pobol o ffurfiau gwahanol o gelfyddydau.


Ffynonellau