Branwen ferch Llŷr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Chwedl '''Branwen ferch Llŷr''' yw'r ail o [[Pedair Cainc y Mabinogi|Bedair Cainc y Mabinogi]].
 
Mae'r chwedl yn agor gyda [[Brân fab Llŷr]] neu Bendigeidfran yn sefyll ar graig yn [[Harlech]] yn edrych tua'r môr, lle gwelir llongau yn dynesu. Yr ymwelydd yw [[Matholwch]] breinbrenin [[Iwerddon]], sydd wedi dod i ofyn am chwaer Bendigeidfran, [[Branwen]], yn wraig iddo. Cytunir i'r briodas, ond yn ystod y wledd i'w dathlu mae [[Efnysien]], hanner brawd Branwen, yn cyrraedd y llys. Mae'n ddig na ofynwyd am ei ganiatâd ef cyn trefnu'r briodas, ac mae'n anffurfio meirch Matholwch fel dial.
 
Yn Iwerddon mae Branwen yn byw'n gytun gyda Matholwch am gyfnod, a genir mab, [[Gwern]], iddynt, ond yna mae Matholwch yn cofio'r hyn a wnaeth Efnysien i'w geffylau ac yn dial am ei sarhad ar Franwen. Caiff ei gyrru i weithio yn y gegin am dair blynedd, ond mae'n dofi [[Drudwy]] ac yn ei yrru draw i Brydain gyda neges i Bendigeidfran yn dweud sut y mae'n cael ei thrin. Mae Bendigeidfran a'i fyddin yn croesi i Iwerddon, y fyddin mewn llongau ond Brân yn cerdded trwy'r môr, gan ei fod yn gawr na all yr un llong ei gario.