Llŷn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
:''Gweler hefyd [[Llŷn (gwahaniaethu)]]''.
 
'''Llŷn''' -yw yenw [[cantref]] hanesyddol yng ngogledd-orllewin [[Cymru]], sy'n cyfateb yn fras i'r hyn a elwir 'Pen Llŷn' heddiw. Dyma'r Llŷn go iawn.
 
Cantref wedi'i amgylchynnu ar ddwy ochr gan y môr yw Llŷn, yn sefyll ar wahân ac yn wynebu dros y [[Môr Celtaidd]] i dde-ddwyrain [[Iwerddon]]. Yn y dwyrain mae'n ffinio ag [[Arfon]] ac [[Eifionydd]]. Credir fod perthynas ieithyddol rhwng yr enwau Llŷn a [[Leinster]] a gwyddys fod mewnfudwyr o'r rhan honno o'r Ynys Werdd wedi ymsefydlu mewn rhannau o Lŷn yn [[Oes yr Haearn]] ymlaen.
 
Ymrennir y cantref yn dri [[Cwmwd|chwmwd]], sef [[Dinllaen]] a'i llys yn [[Nefyn]], [[Cymydmaen]] a'i llys yn [[Neigwl]], a [[Cafflogion|Chafflogion]] (neu Afflogion) gyda [[Pwllheli]] yn ganolfan iddi. O fewn y cantref ceid y ''[[clas]]'' neu [[Mynachlog|fynachlog]] [[Celtaidd|Geltaidd]] gynnar yn [[Aberdaron]] ac [[Ynys Enlli]] enwog.
 
Roedd Llŷn yn gartref i [[Llwythau Celtaidd Cymru|lwyth Celtaidd]] o'r enw y [[Gangani]]. Ceir sawl [[bryngaer]] yn Llŷn a berthynai iddynt, er enghraifft ym [[Portin-llaen|Mortin-llaen]], [[Carn Fadryn]] a [[Tre'r Ceiri|Thre'r Ceiri]] ar [[Yr Eifl]]. Safai'r olaf ar y ffin rhwng Llŷn a chantref Arfon.
 
[[Categori:Llŷn| ]]
[[Categori:Cantrefi Cymru]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]