Leonardo Bruni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B →‎Ei ysgolheictod: testun italig
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 15:
Trwy gydol ei 17 mlynedd yn Ganghellor ar Fflorens, cyfrannodd Leonardo yn helaeth at ddiwylliant a dysg yn y ddinas. Cyfieithodd sawl gwaith gan [[llenyddiaeth Hen Roeg|awduron Hen Roeg]] i'r Lladin, gan gynnwys [[Aristoteles]], [[Platon]], [[Plutarch]], [[Demosthenes]], ac [[Æschines]]. Yn ogystal â'u gwerth hanesyddol ac ysgolheigaidd, ystyrir y cyfieithiadau hyn yn esiamplau o Ladiniaeth bur, a nodir Leonardo am ei arddull [[Ciceroniaeth|Ciceronaidd]] gain.
 
Campwaith Leonardo ydy "''Historiarum Florentini populi libri XII"'', hanes o Fflorens a'i phobl yn yr iaith Ladin mewn 12 llyfr, a ysbrydolwyd gan waith yr hanesydd Rhufeinig [[Titus Livius]]. Gweithiodd ar y gwaith hwn o'i ddychweliad i Fflorens ym 1415 hyd at ei farwolaeth, a derbyniodd ganmoliaeth oddi ar ei gyfoedion am y gorchwyl hwn. Rhoddwyd iddo ddinasyddiaeth anrhydeddus a dyfarnwyd efe a'i blant yn rhydd o dreth am y cyfraniad hwn at fywyd diwylliannol Fflorens. Nodir yr hanes am ei ddefnydd o ffynonellau gwreiddiol a dogfennau preifat a chyhoeddus, yn wahanol i groniclau'r Oesoedd Canol a oedd yn dibynnu ar chwedlau ac achlust. Cafodd Leonardo ddylanwad pwysig ar hanesyddiaeth ac athroniaeth ei oes am iddo portreadu'r [[Oesoedd Tywyll]] yn sgil cwymp [[yr Ymerodraeth Rufeinig]] orllewinol yn gyfnod o anwybodaeth ac ofergoeliaeth a barodd hyd at oes ei hunan, cysyniad a efelychwyd gan hanesydd o ddyneiddiwr arall, [[Flavio Biondo]], a fathai'r enw "[[Yr Oesoedd Canol]]" am yr holl filflwyddiant o ddiwedd [[yr Henfyd]] hyd at y Dadeni.
 
Ymhlith ei weithiau gwreiddiol eraill yn Lladin mae ''Commentarius Rerum Suo Tempore Gestarum'', ''De Romae Origine'', a ''De Bello Italico adversus Gothos'', bywgraffiadau o [[Cicero]] ac [[Aristoteles]], a'i ddeg cyfrol o lythyrau, ''Epistolae Familiares''. Ysgrifennodd hefyd fywgraffiadau yn yr iaith Eidaleg o'r llenorion Eidalaidd [[Dante Alighieri]], [[Francesco Petrarca]], a [[Giovanni Boccaccio]], a gyfrannodd yn sylweddol at werthfawrogiad llenyddiaeth yn iaith y werin yn y Dadeni Eidalaidd.