Tiger Bay: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cywiro camgymeriadau gramadegol / Correcting grammactial errors
Cywiro camgymeriadau gramadegol / Correcting grammatical errors
Llinell 11:
Tyfodd cymuned unigryw o gwmpas ardal y dociau; daeth gweithwyr y dociau a morwyr o bob rhan o'r byd i ymsefydlu yno a daethpwyd i'w adnabod fel 'Tiger Bay' oherwydd llif cryf y dŵr rhwng y dociau ac [[Afon Hafren|Afon Hafren.]]
 
Yn Tiger Bay ymgartrefodd boblpobl o tua 45 o genhedloedd, yngan cynnwysgynnwys [[Norwyaid]], [[Somaliaid]], [[Iemeniaid]], [[Sbaenwyr]], [[Eidalwyr]], [[Gwyddelod]] a phobl o'r [[Caribî]] gan roi cymeriad amlddiwylliannol arbennig i'r ardal. Yn wahanol i hanes cymunedau o fewnfudwyr mewn dinasoedd mawr fel [[Efrog Newydd]], ymododdai cymunedau Tiger Bay i'w gilydd, gyda phobl yn cymysgu a phriodi.
 
Y tu allan i'r gymuned, roedd gan Tiger Bay enw am fod yn ardal galed a pheryglus. Un rheswm am hynny oedd y ffaith fod morwyr o bob rhan o'r byd yn aros yno dros dro wrth i'w llongau gael eu llwytho neu eu dadlwytho yn y dociau. O ganlyniad daeth Tiger Bay yn [[ardal golau coch]] adnabyddus ac roedd lefel trais a throsedd yn uchel hefyd a'r drwgweithredwyr yn dianc ar eu llongau o afael y gyfraith. Ond i'r bobl leol oedd yn byw yno ac yn ei adnabod roedd Tiger Bay yn lle cyfeillgar gyda chymuned glos.