Layla Saad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Layla Saad"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:24, 10 Gorffennaf 2020

Awdur ac addysgydd yw Layla F. Saad. Ar ôl cychwyn ei her Instagram #MeAndWhiteSupremacy yn 2018, datblygodd ei gwaith yn gyhoeddiad digidol Me and White Supremacy Workbook. Cyhoeddwyd y llyfr Me and White Supremacy yn 2020 a chyrhaeddodd restr llyfrau sy'n gwerthu orau <i id="mwDQ">The New York Times</i>. Mae hefyd yn cyflwyno'r Good Ancestor Podcast.

Bywyd cynnar

Roedd mam Saad yn dod o Zanzibar, Tanzania, a'i thad o Mombasa, Kenya. Symudodd y ddau i Gaerdydd yng Nghymru; yno y gwnaethon nhw gyfarfod ac yno hefyd y cafodd Saad ei geni a'i magu. Bu hefyd yn byw yn Tanzania a Swindon, Lloegr, wrth dyfu i fyny. Roedd hi'n hoff o ffuglen dditectif pan yn blentyn. Symudodd y teulu i Qatar pan oedd Saad yn 15 oed. Derbyniodd radd Baglor yn y Gyfraith o Brifysgol Caerhirfryn.

Gyrfa

Yn 2017, ysgrifennodd Saad gofnod blog "I Need to Talk to Spiritual White Women About White Supremacy". Cafodd dderbyniad da gan rai, a chafodd adlach hefyd gan rai pobl wyn. Yn 2018, dechreuodd Saad her Instagram o dan hashnod #MeAndWhiteSupremacy a oedd yn annog pobl i ystyried eu perthynas â goruchafiaeth y gwynion am 28 diwrnod. Roedd yn boblogaidd ymhlith athrawon. Yn dilyn hyn, ysgrifennodd y cyhoeddiad digidol Me and White Supremacy Workbook. Cafodd ei lawrlwytho gan 100,000 o bobl dros gyfnod o chwe mis a'i gymeradwyo gan ffigurau cyhoeddus fel Anne Hathaway, Elizabeth Gilbert, Robin DiAngelo a Glennon Doyle.

Yn 2020, cafodd y gwaith hwn yn ei droi'n llyfr Me and White Supremacy. Cyrhaeddodd y llyfr rif 10 ar restr llyfrau sy'n gwerthu orau <i id="mwPQ">The New York Times</i> ar 16 Chwefror 2020 yng nghategori 'Combined Print & E-Book Nonfiction'.[1] Cafodd y llyfr sylw o'r newydd yn dilyn lladd George Floyd ym mis Mai 2020 a'r protestiadau a ddilynodd, gydag chynnydd yng ngwerthiant llyfrau am hil. Cyrhaeddodd y llyfr rhif pump ar restr llyfrau ffeithiol clawr caled y New York Times ar 12 Gorffennaf 2020. Roedd yn drydydd ar restr llyfrau sy'n gwerthu orau'r Sunday Times ar 26 Mehefin 2020 a chyrhaeddodd chweched ar restr gwerthiant y llyfrau ffeithiol ar wefan llyfrau sain Audible ar 5 Mehefin 2020.

Mae Saad yn cyflwyno'r Good Ancestor Podcast, gan gyfweld â phobl am "hynafiaid" yn eu teulu neu yn y gymdeithas ehangach sydd wedi dylanwadu arnyn nhw.

Bywyd personol

Mae Saad yn byw yn Doha, Qatar, gyda'i gwr, Sam, a'u plant, Maya a Mohamed. Mae Saad yn Fwslim.

Gweithiau

  • Saad, Layla (2020). Me and White Supremacy. Sourcebooks. ISBN 1529405084

Cyfeiriadau

  1. "Combined Print & E-Book Nonfiction – Best Sellers – Feb. 16, 2020 – The New York Times". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd June 13, 2020.

Darllen pellach

  • Saad, Layla (Ionawr 29, 2020). "One writer reveals how to recognise and dismantle your white privilege". Glamour.
  • Fischer, Lisa (Chwefror 20, 2020). "Even 'Good Allies' Are Probably Complicit: Layla Saad on Countering White Supremacy". Jezebel.