Cyndeyrn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ychwanegwyd 1 beit ,  3 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Gwybodlen using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
[[Sant]] a gysylltir a teyrnas Frythonig [[Ystrad Clud]] yn [[yr Hen Ogledd]] oedd '''Cyndeyrn''' ([[Brythoneg]]: *''Contigernos''; [[Lladin]]: ''Cont[h]igirni''<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'', tud. 320.</ref>; [[Llydaweg]] a [[Saesneg]]: ''Kentigern'') neu '''Mungo''' (tua [[518]] - [[13 Ionawr]] [[603]]). Cyfeirir ato hefyd fel '''Cyndeyrn Garthwys''' yn y traddodiad Cymreig.<ref>''Trioedd Ynys Prydein'', tud. 320.</ref>
 
Yn ôl traddodiad, roedd Cyndeyrn yn fab gordderch i [[Owain ab Urien]] ac yn ŵyr i [[Urien Rheged]]. Roedd [[Rhydderch Hael]], brenin Ystrad Clud, yn noddwr iddo. Ef oedd sylfaenydd [[Glasgow]]. Ceir manylion amdano ym ''Muchedd Sant Cyndeyrn'', a ysgrifenwydysgrifennwyd ar gyfer [[Jocelin|Jocelin o Furness]], esgob [[Glasgow]], yn yr Oesoedd Canol. Alltudiwyd Cyndeyrn o ardal Ystrad Clud tua 545, a ffodd i ogledd-ddwyrain [[Cymru]] lle sefydlodd [[clas|glas]] yn [[Llanelwy]]. Dywedir mai adeilad pren oedd y clas. Yno, bu gan y sant 965 o ddisgyblion, ac yn eu plith [[Asaph]]. Dychwelodd Cyndeyrn i Ystrad Clud, ar ôl [[Brwydr Arfderydd]] yn [[573]], a chysegrwyd Asaph yn [[esgob]] i'w olynu.
 
Cyfeirir at Gyndeyrn Garthwys mewn un o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]] fel esgob dan [[Arthur]] ym [[Pen Rhionydd|Mhen Rhionydd]] yn yr [[Hen Ogledd]].<ref>''Trioedd Ynys Prydein'', Triawd 1.</ref>