Alaska: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Breckenheimer (sgwrs | cyfraniadau)
B arfbais
ychydig am ddaeareg y wlad
Llinell 34:
49fed talaith yr [[Unol Daleithiau]] (UDA) yw '''Alaska'''. Fe'i derbyniwyd i'r undeb ar [[3 Ionawr]] [[1959]]. Yn 2000 roedd poblogaeth y dalaith yn 626,932.
 
CyfaneddwydDaeth pobl i Alaska gyntaf gan bobl a ddaeth dros [[Pont Tir Bering]]. Yn raddol cyfaneddwyd hi gan lwythau [[Esgimo]] fel yr [[Inupiaq]], yr [[Inuit]] a'r [[Yupik]], a brodorion Americanaidd fel yr [[Aleut]]. Mae'r cofnod ysgrifenedig cyntaf yn awgrymu i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd Alaska trwy [[Rwsia]].
 
== Daeareg ==
Mae toreth o ynysoedd a 54,720 [[cilometr|km]] (34,000 [[milltir]]) o [[traeth|draethau]] yn Alaska, gan gynnwys Ynysoedd Aleutia. Ceir ar yr ynysoedd hyn lawer o [[llosgfynydd|losgfynyddoedd]] megis [[Mount Shishaldin]] ar Ynys Unimak, sy'n codi 3,048 o fetrau (10,000 o droedfeddi) uwchlaw'r môr ac a welir yn mygu'n achlysurol. Credir mai dyma'r côn mwyaf perffaith yn y byd o ran siap, hyd yn oed yn berffeithiach na [[Mount Fuji]] yn [[Japan]]. Mae'r mwclis o losgfynyddoedd yn llifo i'r tir mawr lle gwelir Mount Spurr i'r gorllewin o [[Anchorage]].
Cred y daearegwyr fod rhanbarth eitha eang o dir sy'n cynyddu'n ddyddiol o ran maint, gelwir yr ardal yma'n [[Wrangellia]] ac mae'n cwmpasu sawl talaith arall a rhan o [[Canada|Ganada]].
 
Ceir un o'r llanw mwya'n y byd ym Mraich Turnagain i'r de o Anchorage - gall y gwahaniaeth uchder rhwng y llanw a'r trai yn y rhan hon o'r byd fod cymaint â 10.7 m (35 troedfedd).
 
Mae gan y wlad dros dair miliwn o [[llyn|lynnoedd]]. Ceir rhew parhaol (neu ''permaffrost'') yn gorchuddio 487,747 km2 (188,320 milltir) o dir yn y gogledd a'r de-orllewin. Mae rhewlifoedd yno hefyd: dros 41,440 km2 (16,000 milltir sgwâr) o'r tir. Un o'r rhewlifoedd mwyaf yw Rhewlif Bering ger [[Yukon]], sydd ar ei ben ei hun yn gorchuddio dros 5,827 km2 (2,250 millt sg) o dir. Ceir tua 100,000 rhewlif i gyd: hanner cyfanswm y byd!
 
{{eginyn Unol Daleithiau}}