Math fab Mathonwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
enwau lleoedd
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Chwedl '''Math fab Mathonwy''' yw'r bedwaredd o [[Pedair Cainc y Mabinogi|Bedair Cainc y Mabinogi]].
 
Yn ôl y chwedl, ni allai Math fab Mathonwy, brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] fyw ond tra byddai â'i ddeudroed yng nghôl morwyn, ag eithrio yn amser rhyfel. Goewin ferch Bebin oedd y forwyn yn y swydd yma ar ddechrau'r chwedl. Syrthiodd nai Math, Gilfaethwy fab Dôn, mewn cariad a hi, a gofynnodd am gymorth ei frawd, y dewin [[Gwydion|Gwydion fab Dôn]]. Cynllun Gwydion yw trefnu rhyfel trwy deithio i [[Teyrnas Dyfed|Ddyfed]] at [[Pryderi]], prif gymeriad y gainc gyntaf o'r Mabinogi. Mae'n perswadio Pryderi i roi iddo y moch a gafodd gan Arawn yn gyfnewid am feirch a chŵn hela, ond wedi i Wydion adael gyda'r moch mae Pryderi'n darganfod mai rhith yw'r cŵn a'r meirch ac yn ei ymlid. Lleddir Pryderi yn yr ymladd, ac yn absenoldeb Math caiff Gilfaethwy ei gyfle i dreisio Goewin yng ngwely Math.
 
Roedd yn rhaid i Math gael morwyn newydd gan nad oedd Goewin yn forwyn bellach. Cynghorodd Gwydion iddo ddewis [[Arianrhod]], chwaer Gwydion. I sicrhau mai morwyn oedd hi, gofynnodd Math iddi gamu dros ei [[hudlath]] ef. Wrth wneud hyn gadawodd fachgen mawr penfelyn, ac bu iddi redeg ymaith mewn cywilydd, ond ar gyrchu'r drws gadawodd rywbeth bychan cyn mynd. Cymerodd Gwydion ef cyn i neb gael ail olwg arno, ei blygu mewn llen sidanwe a'i guddio mewn cist fechan wrth droed ei wely. Yn y cyfamser gwnaeth Math fedyddio'r bachgen mawr penfelyn gyda'r enw [[Dylan]]. Cyn gynted ag y bedyddiwyd ef fe gyrchodd y môr ac "fe gafodd natur y môr". Oherwydd hynny y gelwid ef Dylan Ail Don. Wedyn clywodd Gwydion sgrech yn ei gist, ac o'i hagor darganfod mab bychan. Rhoddwyd ef allan i'w faguam gynod, yna magwyd yn y llys gan ei ewythr Gwydion.