Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Swffragét"

Ychwanegwyd 7 beit ,  10 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
Roedd y '''Swffragetiaid''' yn aelodau o fudiad merched yn niwedd yr [[19g]] a dechrau'r [[20g]] a oedd yn hyrwyddo '[[etholfraint]]', neu'r hawl i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Cyfeiria'n benodol at aelodau megis Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (neu'r WSPU). 
 
Cysylltir y term swffragét yn benodol gydag ymgyrchwyr o'r WSPU Prydeinig, a'u harweinydd [[Emmeline Pankhurst]], a ddaeth dan ddylanwad dulliau Rwsiaidd o brotestio, e.e.er engraifft, [[ymprydio]]. Er i Ynys Manaw ganiatáu merched oedd yn berchen ar eiddo bleidleisio mewn etholiadau seneddol yn 1881, Seland Newydd oedd y wlad hunan-lywodraethol gyntaf i ganiatáu hawl i bob menyw dros 21 oed bleidleisio mewn etholiadau seneddol yn 1893.<ref>[//en.wikipedia.org/wiki/Ida_Husted_Harper Ida Husted Harper]. ''[https://archive.org/stream/historyofwomansu06stanuoft#page/n5/mode/2up History of Woman Suffrage, volume 6]'' ([//en.wikipedia.org/wiki/National_American_Woman_Suffrage_Association National American Woman Suffrage Association], 1922) p. 752.</ref> Llwyddodd merched yn Ne Awstralia i gael yr un hawliau ac i gael yr hawl i gael eu hethol yn 1895.<ref>{{Cite web|url=http://foundingdocs.gov.au/item.asp?dID=8|title=Foundingdocs.gov.au|access-date=8 Ionawr 2011|publisher=Foundingdocs.gov.au|archiveurl=https://web.archive.org/web/20101203020826/http://www.foundingdocs.gov.au/item.asp?dID=8|archivedate=3 Rhagfyr 2010|deadurl=yes}}</ref> Yn yr Unol Daleithiau, roedd gan ferched gwyn dros 21 oed yr hawl i bleidleisio yn Wyoming o 1896 ac yn Utah o 1870. Er hynny, yn 1903 nid oedd gan ferched ym Mhrydain yr hawl i bleidleisio a phenderfynodd Pankhurst bod rhaid i'r mudiad ddod yn radical a milwriaethus i fod yn effeithiol. Rhan o'r ymgyrchu oedd difrodi eiddo, ymprydio a charcharu, a pharhaodd hynny tan ddechrau'r rhyfel yn 1914.
 
Yn 1918 pasiwyd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl oedd yn rhoi’r hawl i ferched dros 30 oed ym Mhrydain bleidleisio, gydag amodau eiddo penodol, ac yn 1928 daeth hynny'n wir i bob menyw dros 21 oed.<ref name="Crawford 1999">{{Harvard citation no brackets|Crawford|1999}}.</ref>