Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dubai"

Lleihawyd o 23 beit ,  3 mis yn ôl
B
Wedi gwrthdroi golygiadau gan 83.110.223.202 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan YiFeiBot.
(minor change)
B (Wedi gwrthdroi golygiadau gan 83.110.223.202 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan YiFeiBot.)
Tagiau: Rollback
 
Mae '''Dubai''' ([[Arabeg]]: إمارة دبي) yn un o'r saith o Emiradau a dyma yw'r dinas fwyaf poblog yn yr [[Emiradau Arabaidd Unedig]] (EAU). Lleolir y ddinas ar arfordir gogleddol y wlad ar y Penrhyn Arabaidd. Weithiau gelwir Bwrdeistref Dubai yn ddinas Dubai er mwyn medru gwahaniaethu rhyngddo a'r Emiradau.
 
Dengys dogfennau ysgrifenedig fodolaeth y ddinas o leiaf 150 o flynyddoedd cyn i'r Emiradau Arabaidd Unedig gael eu ffurfio. Mae Dubai yn rhannu cyfundrefnau cyfreithiol, gwleidyddol, milwrol ac economaidd gyda'r Emiradau eraill o fewn fframwaith ffederal, er bod gan bob emiraeth reolaeth dros rhai swyddogaethau fel gweinyddu'r gyfraith a chynnal a chadw cyfleusterau lleol. Mae gan Dubai y boblogaeth fwyaf a hi yw ail emiraeth fwyaf o ran arwynebedd ar ôl [[Abu Dhabi]]. Dubai ac Abu Dhabi yw'r unig ddwy ermiraeth sydd a'r [https://www.299.com/ pŵer i veto ar faterion] o bwysigrwydd cenedlaethol o dan ddeddfwriaeth y wlad. Mae brenhinlin Al Maktoum wedi rheoli Dubai ers 1833. Mae rheolwr presennol Dubai, Mohammed bin Rashid Al Maktoum hefyd yn Brif Weinidog ac Is-arlywydd yr Emiradau Arabaidd Unedig.
 
Daw prif incwm y ddinas o [[twristiaeth|dwristiaeth]], [[masnach]], gwerthu cartrefi a gwasanaethau ariannol. Mae arian o betrol a nwy naturiol yn cyfrif am lai na 6% (2006) o economi $37 biliwn (UDA) Dubai. Fodd bynnag, cyfrannodd gwerthu tai a'r diwydiant adeiladu 22.6% i'r economi yn 2005, cyn y twf adeiladu ar raddfa eang a welir ar hyn o bryd. Lleolir twr fwyaf y Byd sef y [[Burj Khalifa]] yno. Mae Dubai wedi denu sylw yn sgil ei chynlluniau adeiladu a'i digwyddiadau ym myd chwaraeon.