Rungano Nyoni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yn Lusaka yn 1982
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Rungano Nyoni"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:26, 15 Gorffennaf 2020

Cyfarwyddwraig a sgriptiwraig Sambiaidd-Gymreig yw Rungano Nyoni. Mae hi'n adnabyddus am y ffilm I Am Not a Witch a ysgrifennodd a'i chyfarwyddo ganddi. Enillodd y ffilm wobr BAFTA fel Cychwyniad Eithriadol i Nyoni yn 2018 a chafodd hefyd glod mewn gwyliau ffilm rhyngwladol. Enillodd ei ffilm The List (2009) Wobr BAFTA Cymru am y Ffilm Fer Orau.[1]

Bywyd Cynnar ac Addysg

Ganwyd Nyoni yn Lusaka, Sambia, ar 17 Ebrill 1982 i Merill Mutale a Thomas Nyoni. Ystyr yr enw Rungano yn yr iaith Shona o Zimbabwe yw “storïwraig”. Ymfudodd ei theulu i Gymru pan oedd yn naw oed.

Mynychodd Brifysgol Birmingham, lle derbyniodd radd Baglor Masnach mewn Astudiaethau Busnes.[2] Ar ôl gorffen ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Birmingham, penderfynodd Nyoni astudio actio ym Mhrifysgol y Celfyddydau Llundain gan mai ei breuddwyd erioed oedd bod yn actores. Yn ystod ei hamser yno cafodd ei denu at sgriptio ac i weithio y tu ôl i'r camera, ond cadwodd ei hawydd i actio. Aeth Nyoni ymlaen i gwblhau ei gradd meistr mewn Drama ac yn 2009, graddiodd o Drama Center London gyda gradd meistr mewn Actio.

Gyrfa

Mae Nyoni wedi nodi mai ei dylanwad cyntaf ar ffilm oedd nofel Elfriede Jelinek, The Piano Teacher, a ddewisodd mewn llyfrgell oherwydd y llun ar y clawr. Mae hi wedi nodi bod addasiad ffilm y nofel yn 2001 yn un o’i hoff ffilmiau a’i bod “eisiau bod yn union fel Isabelle Huppert" gan fod ei pherfformiad wedi cael effaith enfawr arni. Dywed iddi sylweddoli na allai actio fel Isabelle Huppert, ond ei bod cyfarwyddo wedi cadw ei chwilfrydedd. Roedd hynny'n drobwynt mawr iddi oherwydd iddi sylweddoli y gall cyfarwyddo effeithiol gael effaith wirioneddol ar bobl.[3]

Yn 2006 rhyddhaodd Nyoni ei ffilm gyntaf Yande (sy'n golygu "Fy Hapusrwydd Mawr" yn iaith Bemba) a ysgrifennodd a'i saethu ar ffilm uwch 8mm du a gwyn. Mae'r ffilm yn ymdrin â ffasiwn a menywod Affricanaidd a oedd yn gorllewino eu hymddangosiad a'u hystumiau er mwyn cydymffurfio â "delfryd". Rhyddhaodd ei dwy ffilm fer nesaf, 20 Questions a The List, a enillodd Wobr BAFTA Cymru, yn 2010.

Rhyddhawyd ei phedwaredd ffilm, Mwansa the Great, yn 2011 a chafodd ei dewis i sgrinio mewn dros 100 o wyliau ffilm rhyngwladol. Cafodd dderbyniad da yn y gwyliau; enillodd dros 20 o wobrau ac fe’i henwebwyd am Wobr BAFTA 2012. Mae Nyoni yn aml yn cydweithio â’i phartner Gabriel Gauchet ac yn 2012 cafodd ffilm a gyfarwyddwyd gan Gauchet ac a ysgrifennwyd gan Nyoni, The Mass of Men, ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Locarno, ac enillodd Wobr Golden Leopard. Fel Mwansa the Great, dewiswyd y ffilm i'w dangos mewn dros 100 o wyliau ffilm gan ennill dros 50 o wobrau. Dilynwyd hyn gan ei ffilm fer Listen (Kuuntele) yn 2014, a dderbyniodd y Wobr Ffilm Fer Orau yng Ngŵyl Ffilm Tribeca 2015.

Yn 2017 rhyddhaodd Nyoni ei phrif ffilm ffuglen gyntaf I Am Not a Witch, ac fe'i dewiswyd i'w sgrinio ym Mhythefnos y Cyfarwyddwyr yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2017.[4] Aeth y ffilm hon ymlaen i ennill gwobrau i Nyoni fel Cyfarwyddwr Gorau a'r Cyfarwyddwr Cychwynnol Gorau yng Ngwobrau Ffilm Annibynnol Prydain yn 2017.

Dolenni allanol


Cyfeiriadau

  1. Lodderhose, Diana; Lodderhose, Diana (17 May 2017). "'I Am Not A Witch' Helmer Rungano Nyoni Returns To Cannes With Buzzed-About Feature Debut — Cannes Ones To Watch". Deadline. Retrieved 11 October 2019.
  2. "Rungano Nyoni". IFFR. 2 September 2017. Retrieved 30 October 2019.
  3. "Rungano Nyoni: 'I wanted to show Zambian humour and how we deal with tragic events'". Little White Lies. Retrieved 18 October 2019.
  4. "Rungano Nyoni, ni Zambienne ni Galloise : cinéaste" (yn Ffrangeg). 2017-12-27. Cyrchwyd 2019-10-30.