E. Wyn James: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
Mae’n frodor o Droed-y-rhiw ger Merthyr Tudful. Graddiodd yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1972. Bu wedyn yn fyfyriwr ymchwil yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Aberystwyth, ac yna’n Swyddog Ymchwil yn yr Adran Addysg yno, yn gweithio ar brosiect ar ddatblygiad ieithyddol a chysyniadol plant 3–7 oed yn ysgolion Cymru. Bu hefyd yn Is-Warden Neuadd Ceredigion pan oedd honno’n neuadd breswyl Gymraeg i fyfyrwyr gwrywaidd, ac yna’n Ddirprwy Warden cyntaf Neuadd Pantycelyn wedi i honno ddod yn neuadd breswyl Gymraeg yn 1974.
 
Yn 1977 symudodd i weithio i Fudiad Efengylaidd Cymru yn swyddfa’r Mudiad ym Mryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, lle y bu’n Gyfarwyddwr Gwasg Efengylaidd Cymru ac yn Llyfrgellydd Llyfrgell Efengylaidd Cymru nes iddo gael ei benodi’n Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg Fodern yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn 1994. Arhosodd yno hyd ei ymddeoliad yn 2015. Enillodd ddoethuriaeth yn 1998 am ei olygiad o emynau [[Ann Griffiths]]. Dyfarnwyd cadair bersonol iddo gan y Brifysgol yn 2013. Bu hefyd rhwng 2002 a’i ymddeoliad yn gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymry America Prifysgol Caerdydd.
 
Mae'n byw yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, gyda'i wraig, y cyn-Archdderwydd a Chofiadur yr Orsedd, [[Christine James]]. Mae ganddynt dri o blant a phump o wyrion.
Llinell 15:
Etholwyd yr Athro James yn Gymrawd Cymdeithas Emynau Cymru yn 2011 ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2013. Bu’n Gymrawd ar Ymweliad ym Mhrifysgol Caergrawnt (2004), yn Ysgolor Fulbright a Chymrawd ar Ymweliad ym Mhrifysgol Harvard (2012), ac yn Gymrawd Sefydliad Gilder Lehrman ar gyfer Astudio Hanes America, Efrog Newydd (2012-13).
 
Fe’i hurddwyd yn aelod o Orseddd y Beirdd (Gwisg Wen) yn 2008. Bu’n Gadeirydd Cymdeithas Bob Owen (2004-07) ac yn Gadeirydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Mae’n Gadeirydd Adran Ethnoleg ac Astudiaethau Gwerin Cymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Cymru ac yn aelod o'r Comisiwn Baledi Rhyngwladol.