Pedair Cainc y Mabinogi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Yr awdur: awgrym
Llinell 7:
 
==Yr awdur==
Er mai rhan o stoc y [[cyfarwydd]] yw'r Pedair Cainc, a'u gwreiddiau felly'n gorwedd yn y cyfnod [[Celtiaid|Celtaidd]], mae'n iawn hefyd sôn am 'awdur' y Pedair Cainc gan fod iddynt ffurf lenyddol gaboledig ac yn amlwg yn waith un person. Mae cryn ddyfalu ynglŷn ag awdur tybiedig y chwedlau. Mae [[Ifor Williams]] yn dadlau mai rhywun o [[Dyfed|Ddyfed]] yw'r awdur a'i fod wedi asio wrth ei gilydd y pedair chwedl i wneud "un Mabinogi o chwedlau y Gogledd a'r De" (PKM xxii). Mae rhai beirniaid wedi awgrymu mai merch oedd yr awdur am fod yr ymdriniaeth o bersonoliaeth y cymeriadau'n deimladwy iawn, yn arbennig yn achos y cymeriadau benywaidd. Un awgrym oedd mai [[Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan]] oedd yr awdur. Ond y gwir ydyw does neb yn gwybod pwy ysgrifennodd y gampwaith hon.
 
==Daearyddiaeth y Pedair Cainc==