Pedair Cainc y Mabinogi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Llinell 4:
 
==Y llawysgrifau==
Mae testun cyfan y Pedair Cainc ar gael mewn dwy [[Llawysgrif|lawysgrif]] sydd ymhlith y pwysicaf o'r [[llawysgrifau Cymreig]] sydd wedi goroesi. Y gynharaf o'r ddwy yw [[Llyfr Gwyn Rhydderch]] gyda'r adran y ceir y testun ynddi i'w dyddio i tua [[1300]]-[[1325]]. Ond ceir y testun gorau yn [[Llyfr Coch Hergest]] (tua [[1375]]-[[1425]]). Yn ogystal ceir dau ddarn o'r testun yn llawygrif [[Peniarth]] [[Peniarth 6|6]]; dyma'r testun hynaf, i'w ddyddio i tua [[1225]] efallai. Cedwir Peniarth 6 a'r Llyfr Gwyn yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], [[Aberystwyth]] ac mae'r Llyfr Coch yn [[Llyfrgell y Bodleian]] yn [[Rhydychen]].
 
==Cyfnod y chwedlau==
Daw'r testunau uchod i gyd o destun neu destunau cynharach (dim hwyrach na tua [[1200]]) ac mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion yn cynnig dyddiad o gwmpas ail hanner yr [[11eg ganrif]] ar gyfer cyfansoddi'r Pedair Cainc yn eu ffurf bresennol ([[1060]] yw awgrym Ifor Williams). Nodweddir PKM gan absenoldeb y [[Saeson]] a'r [[Normaniaid]]. Ni cheir cyfeiriad at y [[Rhufeiniaid]] chwaith. Mae [[Ynys Prydain]] ym meddiant y [[Brythoniaid]] ac mae gan y Brythoniaid berthynas agos ond cymhleth â'r [[Gwyddelod]] yn [[Iwerddon]]. Cleddir pen [[Bendigeidfran]] yn y [[Gwynfryn]] yn [[Llundain]] er mwyn gwarchod yr ynys rhag goresgynwyr, sy'n awgrymu fod rhyw gwmwl ar y gorwel. Byd cwbl Geltaidd yw byd y Pedair Cainc ac felly mai lle i gredu eu bod yn deillio o ddiwedd [[Oes yr Haearn]] (fel yn achos rhai o'r chwedlau [[Gwyddeleg]] yn Iwerddon).
 
==Yr awdur==