Susan Elan Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Jac y jwc (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
|
}}
 
Gwleidydd yn [[Y Blaid Lafur (DU)|y Blaid Lafur]] yw '''Susan Elan Jones AS'''. Cafodd ei hethol fel [[Aelod Seneddol]] [[De Clwyd (etholaeth seneddol)|De Clwyd]] yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010|Etholiadau San Steffan 2010]], yn dilyn ymddeoliad [[Martyn Jones]] o'r sedd cyn yr etholiad.<ref>[http://http://www.golwg360.com/blog/ifan-morgan-jones/588-blog-byw-etholiad-2010 Blog byw noson Etholiad 2010], golwg360.com</ref>
 
Llinell 20 ⟶ 19:
Mae'n siaradwraig Gymraeg ac mae'r [[y Gymraeg|Gymraeg]] yn bwnc sy'n agos at ei chalon; yn ystod ei [[araith gyntaf|haraith gyntaf]] yn [[Tŷ'r Cyffredin|Nhŷ'r Cyffredin]] rhoddodd beth o hanes yr iaith i'w chyd-aelodau gan grybwyll y [[Welsh Not]]. Wrth ymhyfrydu yn y ffaith ei bod wedi gallu tyngu llw yn Gymraeg wrth ymuno â'r Senedd, talodd deyrnged i rai (gan gynnwys ei phennaeth pan oedd yn yr ysgol, Mrs Mair Miles Thomas) sydd wedi ymladd er mwyn sicrhau hawliau sifil i siaradwyr Cymraeg.<ref>[http://www.theyworkforyou.com/debates/?id=2010-06-09f.345.0&s=susan+elan+jones#g376.0 3.11pm, Susan Elan Jones], TheyWorkForYou.com</ref>
 
Mae wedi bod yn gefnogol i frwydr [[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg|Cymdeithas yr Iaith]] i ddiogelu dyfodol [[S4C]] yn sgilsgìl bwriadau [[Llywodraeth y Deyrnas Unedig|Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig]] i roi'r sianel yng ngofal y [[BBC]]. Mae hefyd wedi galw ar ei phlaid ei hun i fod yn fwy parod i frwydro dros y Gymraeg fel y mae wedi brwydro dros achosion eraill ar hyd y blynyddoedd, gan ddadlau mai'r Blaid Lafur yw'r blaid naturiol i weithio dros achosion radical o'r fath.<ref>[http://www.golwg360.com/newyddion/iaith/45646-angen-newid-agwedd-llafur-at-yr-iaith-meddai-as ‘Angen newid agwedd Llafur at yr iaith,’ meddai AS], golwg360.com</ref>
 
Mae hi hefyd wedi dadlau dros gyhoeddi treuliau Aelodau Seneddol yn llawn. Caiff ei threuliau hi eu cyhoeddi ar ei gwefan yn fisol.<ref>http://www.susanelanjones.co.uk gwefan susanelanjones.co.uk</ref>