E. Wyn James: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
==Bywyd cynnar ac addysg ==
 
Mae’n frodor o Droed-y-rhiw ger Merthyr Tudful. Aeth i Ysgol Ramadeg Mynwent y Crynwyr (1962-67) ac Ysgol Uwchradd Afon Taf (1967-69). Graddiodd yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1972. Bu wedyn yn fyfyriwr ymchwil yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Aberystwyth, ac yna’n Swyddog Ymchwil yn yr Adran Addysg yno, yn gweithio ar brosiect ar ddatblygiad ieithyddol a chysyniadol plant 3–7 oed yn ysgolion Cymru. Bu hefyd yn Is-Warden Neuadd Ceredigion pan oedd honno’n neuadd breswyl Gymraeg i fyfyrwyr gwrywaidd, ac yna’n Ddirprwy Warden cyntaf Neuadd Pantycelyn wedi i honno ddod yn neuadd breswyl Gymraeg yn 1974<ref>{{cite magazine|title=Y Llyfrau yn Fy Mywyd|first=E. Wyn|last=James|magazine=Golwg|date=25 Mehefin 2020| page=19}}</ref>.
 
==Gyrfa==