Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ifor Rees (awdur)"

Ychwanegwyd 45 beit ,  blwyddyn yn ôl
(→‎top: Gwybodlen wd)
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Android app edit
Awdur, cyfansoddwr, golygydd, cynhyrchydd a phregethwr oedd '''Ifor Rees''' ([[1 Mawrth]] [[1921]] – [[27 Chwefror]] [[2004]]).<ref>[http://www.tafelai.com/blw2004/TAFOD186g.pdf Taf Elai; Ebrill 2004]</ref> Fe'i ganwyd yn 1921 yn [[Glasgow]] lle roedd ei dad yn gweithio fel [[saer]] ym mhorthladdoedd y ddinas yn ystod [[y Rhyfel Byd Cyntaf]]. Dychwelodd ei deulu i [[Mynydd-bach|Fynydd-bach]], [[Abertawe]] pan oedd yn ifanc iawn. Cafodd ei addysg gynnar yn [[Tirdeunaw|Ysgol Tirdeunaw]], ac yna [[Ysgol Ramadeg Abertawe]] a [[Coleg y Brifysgol Abertawe|Choleg y Brifysgol Abertawe]] lle graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Yna, aeth yn bregethwr ar ôl mynychu’r Coleg Presbyteraidd yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]].
 
Ymunodd â’r BBC ym 1957 ym [[Bangor|Mangor]] fel cynhyrchydd radio cyn cynhyrchu a chyflwyno rhaglennirhaglendd newyddion 'Heddiw' cyn gweithio ar raglenni am wledydd eraill lle bu’n arloesi yn y maes. Ar ôl gadael y BBC ym 1981, ffurfiodd gwmni cynhyrchu annibynnol ‘Ffilmiau’r Garth’ gyda’i wraig, Joan, gan adrodd hanesion nifer o wledydd gan gynnwys [[Groeg]], [[Twrci]], [[Denmarc]] a [[Dwyrain yr Almaen]]. Bu hefyd yn olrhain hanes O. M. Edwards mewn rhaglen a ffilmiwyd ar ynys Cyprus.
 
Roedd hefyd yn olygydd a chyhoeddodd nifer o gyfrolau. Ffurfiodd ddeuawd ysgafn gyda'i gyfaill Dafydd Evans. Ef oedd cyfansoddwr ac awdur y gân ‘Dros y Mynydd Du o Frynaman’.
362

golygiad