Pedair Cainc y Mabinogi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cywirio fy hun!
Llinell 20:
 
Yn yr Ail Gainc, ''Branwen ferch Llŷr'', mae Brân fab Llŷr ([[Bendigeidfran]]) yn rheoli [[Prydain]] o [[Harlech]] ac [[Aberffraw]]. Mae ganddo ddau frawd, Manawydan ac [[Efnisien]], y naill yn fwyn a'r llall yn wyllt a rhyfelgar. Gweithred ddibwyll Efnisien yn sarhau [[Matholwch]], brenin Iwerddon, sydd wedi dod i briodi [[Branwen]], yw cychwyn helyntion y gainc ac yn arwain at gyrch Brân a'i wŷr i Iwerddon gyda chanlyniadaiu trychinebus. Dim ond Seithwyr o'r Cymry sy'n osgoi'r gyflafan, gan gynnwys Pryderi, Manawydan a [[Pendaran Dyfed]]. Mae'r gainc yn gorffen gyda'r daith yn ôl i Gymru, marwolaeth Branwen ym Môn a chladdu Pen Bendigeidfran yn Llundain.
 
Yn y Drydedd Gainc, ''Manawydan fab Llŷr'', mae [[Caswallawn fab Beli]] wedi meddianu Ynys Prydain. Mae Pryderi yn rhoi ei fam yn wraig i'w gyfaill Manawydan ac am gyfnod mae bywyd yn braf yn Nyfed, ond yna mae [[Llwyd fab Cilcoed]] yn taflu hud ar y wlad. Cosbir Rhiannon a Phryderi ond mae Manawydan yn eu rhyddhau.
 
Yn y Bedwaredd Gainc, mae ''Math fab Mathonwy'' yn arglwydd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]. Cawn gyfres o anturiaethau a digwyddiadau sy'n ymdroi o gwmpas y prif gymeriadau y [[dewin]] [[Gwydion ap Dôn]], [[Gilfaethwy fab Dôn]] nai Manawydan, ac [[Arianrhod]] ferch [[Dôn]] sy'n esgor ar yr arwr [[Lleu Llaw Gyffes]]. Mae Gwydion yn creu Blodeuwedd yn wraig i Leu ond mae hi'n syrthio am [[Gronw Pebr]], arglwydd [[Penllyn]]. Mae'r chwedl yn gorffen gyda marwolaeth ac atgyfodiad Lleu, troi Blodeuwedd yn dylluan a marw Gronw.
 
==Daearyddiaeth y Pedair Cainc==
Llinell 29 ⟶ 33:
 
Dim ond yn y Bedwaredd Gainc, ''Math fab Mathonwy'', y gwelir lleoli manwl gyda'r digwyddiadau'n cymryd lle yn Arfon, [[Arllechwedd]], [[Llŷn]], [[Eifionydd]] ac [[Ardudwy]] (cnewyllyn teyrnas Gwynedd, sy'n cyfateb yn fras i'r hen [[Sir Gaernarfon]]. Ceir gwybdaith yma hefyd, wrth i Fath ymweld â [[Rhuddlan Teifi]] yn y de i ddwyn moch hud a lledrith Pryderi yn ôl i Wynedd.
 
Yn y Drydedd Gainc, ''Manawydan fab Llŷr'', mae [[Caswallawn fab Beli]] wedi meddianu Ynys Prydain. Mae Pryderi yn rhoi ei fam yn wraig i'w gyfaill Manawydan ac am gyfnod mae bywyd yn braf yn Nyfed, ond yna mae [[Llwyd fab Cilcoed]] yn taflu hud ar y wlad. Cosbir Rhiannon a Phryderi ond mae Manawydan yn eu rhyddhau.
 
Yn y Bedwaredd Gainc, mae ''Math fab Mathonwy'' yn arglwydd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]. Cawn gyfres o anturiaethau a digwyddiadau sy'n ymdroi o gwmpas y prif gymeriadau y [[dewin]] [[Gwydion ap Dôn]], [[Gilfaethwy fab Dôn]] nai Manawydan, ac [[Arianrhod]] ferch [[Dôn]] sy'n esgor ar yr arwr [[Lleu Llaw Gyffes]]. Mae Gwydion yn creu Blodeuwedd yn wraig i Leu ond mae hi'n syrthio am [[Gronw Pebr]], arglwydd [[Penllyn]]. Mae'r chwedl yn gorffen gyda marwolaeth ac atgyfodiad Lleu, troi Blodeuwedd yn dylluan a marw Gronw.
 
==Llyfryddiaeth==