Mercy Ngulube: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Actifydd cymdeithasol o Gymru sy’n codi ymwybyddiaeth o HIV ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol yw '''Mercy Ngulube'''. Pan gafodd ei geni yng [...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:33, 18 Gorffennaf 2020

Actifydd cymdeithasol o Gymru sy’n codi ymwybyddiaeth o HIV ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol yw Mercy Ngulube. Pan gafodd ei geni yng Nghaerdydd yn 1998, roedd hi un o tua ugain o bobl yn unig oedd wedi’u geni yng Nghymru gyda’r clefyd HIV. Penderfynodd wneud hynny’n gyhoeddus pan oedd yn ei harddegau, ac ymroi i godi ymwybyddiaeth o'r firws.[1]

Cafodd Ngubule ei hethol yn gadeirydd Pwyllgor Ieuenctid Cymdeithas HIV y Plant pan oedd yn 16 oed a siaradodd yng Nghynhadledd Ryngwladol HIV yn Durban, De Affrica, yng Ngorffennaf 2016. Cyflwynwyd Gwobr Gwaddol Diana i Ngulube yn 2017 a rhoddodd TEDx Talk ar y testun ‘Generation Y: Entitled to Change’ ym mis Tachwedd y flwyddyn honno.[2] Siaradodd hefyd yng Nghynhadledd Ryngwladol AIDS a gynhaliwyd yn Amsterdam yn haf 2018.[3] Roedd Ngubule ei henwebu am Wobr Person Ifanc yng Ngwobrau Dewi Sant 2018. Bu’n astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi hynny ym Mhrifysgol Caerlŷr, ac enillodd Wobr Myfyriwr Israddedig y Flwyddyn am ‘Weithredu Cymdeithasol Effeithiol’ yn 2018.[4][5]

Cyfeiriadau

  1. "The teenager with HIV fighting for change". BBC News (yn Saesneg). 2018-02-15. Cyrchwyd 2020-07-18.
  2. "Mercy Ngulube - 'Generation Y: Entitled to Change' TEDx". Cyrchwyd https://www.youtube.com/watch?v=_FAH-YNveE0. Check date values in: |access-date= (help)
  3. "'Entitled to make a change', AimeMentoring". Cyrchwyd https://aimementoring.com/story/entitled-to-make-a-positive-change. Check date values in: |access-date= (help)
  4. "Llywodraeth Cymru - Gwobrau Dewi Sant". Cyrchwyd https://gov.wales/st-david-awards/mercy-ngulube. Check date values in: |access-date= (help)
  5. "undergraduateoftheyear.com". Cyrchwyd https://undergraduateoftheyear.com/blogs/my-undergrad-experience/mercy-ngulube. Check date values in: |access-date= (help)