Peter Hope Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 19:
Yn ngwanwyn 1986 cychwynnodd brosiect I’r [[RSPB]] ar statws ac ecoleg y [[grugiar ddu]] yng Nghymru, o safle yn [[Y Bala]]. Ar ôl ysgrifennu ei adroddiad ar y gwaith y flwyddyn wedyn fe’i rhwystrwyd gan iechyd gwael rhag parhau oherwydd y gwaith maes llafurus byddai gofyn iddo wneud. Fis Hydref 1987 cofrestrodd gyda’r Coleg Llyfryddiaeth yn Aberystwyth fel yr hynaf mewn dosbarth o 80, ac yn 1990 cyflwynodd draethawd hir Meistr ar y testun ''the feasibility of creating a wildlife database for Wales''. Erbyn hynny roedd wedi ail ymuno â’r Cyngor Gwarchod Natur ym Mangor fel Ecolegydd Monitro, gan sefydlu tim o weithwyr a ddatblygodd yn rhaglen fonitro Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Arloesodd y dechneg o fonitro o’r unlle, gan ddatblygu dull o ddal cywreinrwydd newidiadau naturiol mewn cynefin ac a arddangosodd ei sgiliau ffotograffig a’i lygad am fanylder.
===Ar ôl ymddeol===
Yn 1993 bu’n rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ei galon: ar ôl gosod rheolydd-calon ymddeolodd o’r diwedd yn 1994. Roedd yntau a Joan yn hapus eu byd yn eu “Cuddfan”, ty bychan yng nghanol Porthaethwy. Caniatodd ymddeol iddo barhau i ysgrifennu, gan gynnwys (gyda Ian Bonner) "A Contribution to the Flora of Bardsey" a gyhoeddwyd gan CCGC yn 2002. Ei brosiect nesaf oedd llyfr dwyieithog sylweddol ei faint Birds of Anglesey - Adar Môn (gyda Paul Whalley). Yn 2001 mewn erthygl yng nghylchgrawn newydd ar y pryd Natur Cymru, ysgrifennodd am ysbrydoliaeth gwarchodfeydda geir o warchodfeydd natur fel Enlli, a oedd iddo fe yn ganlyniad i [[morsegmoeseg|foeseg]] ac i'r ymwybyddiaeth dynol yn hytrach na chrefydd [[theistig]]. Dadleuodd y gallai gwarchodfeydd gyfrannu’n ddifesur i les y Ddynoliaeth fel ffynhonnell o harddwch a naturioldeb.
===Pen y mwdwl===
Efallai iddo ddod fymryn yn rhy hwyr, ond mor addas oedd y Gwobr Cyflawniad Oes Cymdeithas Adarydda Cymru yn 2012 (gan Iolo Williams). Cyfeiriwyd at ei waith ar adar-môr, gan gynnwys monitro trychinebau dryllio tanceri olew, a chyfanswm o 148 o gyhoeddiadau. Gorffennodd trwy gyfeirio ato fel “y dyn mwyaf diymhongar hwn”. Roedd yn ddygn y tu hwnt i grediniaeth, cydwybodol ymhell y tu hwnt i ddyletswydd ac yn ysbrydoliaeth i'w gyfeillion a’i gydweithwyr. Cyfyngwyd ei orchestion gan nifer yr oriau dydd yn unig, ond hefyd gan pyliau trist o salwch. Bu farw Joan yn 2014. Fe’i goroesir gan ei chwaer Margaret (Marty) a’I frawd Ron.<ref>Seilwyd ar adroddiad PHJ ei hun o'i fywyd: Bwletin Llên Natur Awst 2020 (rhifyn 150)</ref>