Peter Hope Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
|||
Llinell 2:
Gyda marwolaeth Peter Hope Jones ar 13 Gorffennaf 2020 yn 85 mlwydd oed, collodd adaryddiaeth Cymreig ffigwr dylanwadol a chynhyrchiol dros ben. Cyfunodd Peter gysactrwydd y gwyddonydd gyda theimladrwydd y bardd. Cyfunodd rhyw fyfyrgarwch moesol ym manylion pob testun neu faes fu dan ei sylw gyda'i fydolwg holistig athronyddol. Dylanwadodd ar genedlaethau o naturiaethwyr yn gymaint trwy ei bersonoliaeth a thrwy ei waith. Meddyliai am eraill pob amser, ond dangosodd trwy ei bersonoliaeth atyniadol bregusrwydd fu'n ei herio trwy ei oes yn sgil iselder.
===Dylanwadau cynnar===
Magwyd Peter ym [[Prestatyn|Mhrestatyn]], nid nepell o aber y [[Afon Ddyfrdwy|Ddyfrdwy]]. Hannai ei fam Menna o [[Llanrhaeadr-ym
===Bwrw Prentisiaeth===
Ym mis Mawrth 1956 cafodd swydd Warden Cynorthwyol ar [[Fair Isle]], lle roedd y Warden Peter Davis newydd gyrraedd o [[Ynys Sgogwm]], ac yno cafodd seiliau cadarn mewn adaryddiaeth, yn enwedig astudiaethau modrwyo a mudo adar. Ei brosiect nesaf yn 1958 oedd gweithio’n wirfoddol ar gorsdir y [[Camargue]] yn ne Ffrainc, yn cynorthwyo’r ymgyrch fodrwyo yng Ngorsaf Ymchwil Tour du Valat o dan ei berchen y Dr. Luc Hoffman. Cynhwysai hyn rai wythnosau yn [[Alpau’r Swisdir]] ac ar arfordir [[Sbaen]].
|