Neo-wladychiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
llywodraeth ac addysg
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 2:
 
Bathwyd y term neo-wladychiaeth ar ddechrau cyfnod datrefedigaethu'r ymerodraethau Ewropeaidd yng nghanol yr 20g, i gyfeirio at ddibyniaeth barhaol y cyn-drefedigaethau newydd annibynnol ar y gwledydd Ewropeaidd hynny. Defnyddiwyd y term yn gyntaf yn sgil cynhadledd gan benaethiaid llywodraethau Ewrop ym 1957, a chytunasant i gynnwys eu tiriogaethau tramor o fewn trefniadau'r [[Y Gymuned Ewropeaidd|Farchnad Gyffredin]]. Cyn bo hir, estynnwyd ei ddiffiniad i grybwyll unrhyw berthynas ymelwol rhwng gwlad ddatblygedig a gwlad ddatblygol, er enghraifft rhwng [[Unol Daleithiau America]] a chenhedloedd [[America Ladin]]. Defnyddiwyd y term gan [[Marcsiaeth|Farcswyr]] i ddisgrifio'r drefn gyfalafol fyd-eang gyfoes (cymharer diffiniad [[Lenin]] o imperialaeth yn "[[imperialaeth#Damcaniaethau Comiwnyddol ar Imperialaeth|gam uchaf cyfalafiaeth]]") a gynhelir gan [[cwmni trawswladol|gwmnïau trawswladol]] a sefydliadau rhyngwladol yn ogystal â llywodraethau'r byd datblygedig er mwyn ymelwa ar draul y byd datblygol.
 
== Llywodraeth ac addysg ==
Yn ogystal â dylanwadau allanol, megis y gyfundrefn economaidd fyd-eang a bygythiadau milwrol, mae ysgolheigion yn dadlau bod neo-wladychiaeth yn dibynnu ar strwythurau mewnol y byd datblygol a gynhelir gan weithredwyr lleol. Gallai'r strwythurau hyn fod yn etifeddiaeth y cyfnod trefedigaethol, er enghraifft olion y gyfundrefn addysg [[Thomas Babington Macaulay, Barwn 1af Macaulay|Macaulayaidd]] yn [[India]], neu yn greadigaethau diweddar sydd yn efelychu hen bolisïau'r awdurdodau trefedigaethol. Yn ôl yr ysgolhaig Syed Hassan, croesewir neo-wladychiaeth gan lywodraethau'r byd datblygol i gyfiawnhau polisïau sydd yn gwthio diwylliannau brodorol i'r cyrion ac yn rhoi normau a dulliau'r byd datblygedig ar waith.<ref name=Hassan1119>Syed Hassan, "Neocolonialism" yn ''Encyclopedia of the Developing World'', golygwyd gan Thomas M. Leonard (Efrog Newydd: Routledge, 2006), t. 1119.</ref>
 
Yn yr oes drefedigaethol, bu'r elît cynhenid yn manteisio ar gydymffurfio â'r drefn Ewropeaidd ac efelychu cymdeithas a diwylliant y gwladychwyr. Trodd nifer o frodorion eu cefnau ar eu traddodiadau ac yn cofleidio'r fydolwg Ewro-ganolog er mwyn ymuno â rhengoedd uchaf cymdeithas. Yn y byd cyfoes, mae meibion a merched y dosbarthiadau uchaf mewn gwledydd datblygol o hyd yn derbyn eu haddysg a'u hyfforddiant yn y Gorllewin, ac yn llyncu felly normau cymdeithasol a diwylliannol estron. Wrth ddychwelyd i'w mamwledydd i weithio yn y llywodraeth, y lluoedd arfog, a'r proffesiynau, maent yn parhau i lynu at fframweithiau cymdeithasol-wleidyddol ac economaidd y byd datblygedig. Gellir cymharu amcanion yr elitau hyn i foderneiddio a Gorllewineiddio eu gwledydd â'r [[baich y dyn gwyn|hen genhadaeth imperialaidd]] i wareiddio'r bobloedd a orchfygwyd.<ref name=Hassan1119/>
 
== Gweler hefyd ==
* [[Gwrthdrefedigaethrwydd]]
* [[Imperialaeth ddiwylliannol]]
* [[Mudiad gwrth-globaleiddio]]
== Ffynonellau ==
=== Cyfeiriadau ===
{{cyfeiriadau|2}}
=== Llyfryddiaeth ===
* Syed Hassan, "Neocolonialism" yn ''Encyclopedia of the Developing World'', golygwyd gan Thomas M. Leonard (Efrog Newydd: Routledge, 2006), tt. 1118–20.
 
[[Categori:Hanes cysylltiadau rhyngwladol]]