Pwyll Pendefig Dyfed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
B Pwyll, Pendefig Dyfed wedi'i symud i Pwyll Pendefig Dyfed
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Chwedl '''''Pwyll Pendefig Dyfed''''' yw'r gainc gyntaf o [[Pedair Cainc y Mabinogi|Bedair Cainc y Mabinogi]].
 
Mae [[Pwyll]], brenin [[Teyrnas Dyfed|Dyfed]] allan yn hela un diwrnod pan mae'n llithio ei gŵn hela ar [[carw|garw]] a laddwyd gan gŵn heliwr arall. [[Arawn]] brenin [[Annwn]] yw'r heliwr arall, ac mae'n cyhuddo Pwyll o ymddwyn yn anghwrtais tuag ato. Dywed y gall Pwyll wneud iawn am y sarhad trwy newid lle ag ef am flwyddyn. Cymer Pwyll bryd a gwedd Arawn a mynd yn frenin Annwn, tra mae Arawn yn teyrnasu ar Ddyfed ar ffurf Pwyll. Tra yn Annwn mae Pwyll yn ymladd a Hafgan, gelyn Arawn, ac yn ei drechu. Caiff Pwyll y teitl "Pen Annwfn".
 
Prioda Pwyll a [[Rhiannon]], a genir mab iddynt. Y noson ar ôl ei eni mae y baban yn diflannu, a chyhuddir Rhiannon o'i ladd. Er iddi wadu hyn mae'r llys yn pwyso ar Pwyll i'w hysgar. Gwrthyd Pwyll wneud hyn, ond mae Rhiannon yn gorfod gwneud penyd. Bedair blynedd yn ddiweddarach mae [[Teyrnon Twrf Liant]], brenin [[Gwent Is Coed]] yn dod a'r mab i lys Pwyll. Yr oedd y bachgen wedi ei gymeryd trwy hud i lys Teyrnon, lle magwyd ef dan yr enw "Gwri Wallt Eurin". Caiff yr enw [[Pryderi]] o eiriau Rhiannon pan glyw fod ei mab yn fyw: "Oedd esgor fy mhryder im, pe gwir hynny".