Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "José Carlos Mariátegui"

B
s
(#wici732)
Tagiau: 2017 source edit
 
B (s)
Tagiau: 2017 source edit
 
Ymgyrchydd ac [[athroniaeth Farcsaidd|athronydd Marcsaidd]] ac ysgrifwr [[Periwiaid|Periwaidd]] oedd '''José Carlos Mariátegui''' ([[14 Mehefin]] [[1894]] – [[16 Ebrill]] [[1930]]).
 
Ganed i deulu tlawd yn nhref Moquegua yn ne [[Periw]].<ref name=HDM>David Walker a Daniel Gray, ''Historical Dictionary of Marxism'' (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2007), tt. 207–8.</ref> Dysgodd ei hunan am Farcsiaeth a gweithiodd yn newyddiadurwr tra'n ymgyrchu dros y mudiad llafur ac yn erbyn yr Arlywydd [[Augusto B. Leguía]] (1908–12, 1919–30). Wedi i Leguía gipio grym am yr eildro a sefydlu unbennaeth, gorfodwyd i José ffoi i'r [[Eidal]] ym 1919. Tra yn Ewrop, dylanwadwyd arno yn gryf gan nifer o feddylwyr ac ymgyrchwyr sosialaidd, gan gynnwys [[BendetoBenedetto Croce]], [[Georges Sorel]], [[Henri Barbusse]], [[Antonio Gramsci]], a [[Maxim Gorky]].<ref name=Britannica>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Jose-Carlos-Mariategui |teitl=José Carlos Mariátegui |dyddiadcyrchiad=20 Gorffennaf 2020 }}</ref>
 
Dychwelodd i [[Lima]] ym 1923, a rhodd ei gefnogaeth i Alianza Popular Revolucionaria Americana (APRA), dan arweiniad Víctor Raúl Haya de la Torres. Cafwyd rhwyg rhwng Mariátegui a Luis Alberto Sánchez, un o aelodau blaenllaw APRA, a phenderfynodd Mariátegui adael y mudiad ym 1928 a sefydlu Plaid Sosialaidd Periw, a ailenwyd yn Blaid Gomiwnyddol Periw ym 1930.<ref name=Britannica/> Er iddo ddioddef o [[parlys|barlys]], a orfodwyd iddo ddefnyddio cadair olwyn, ymgyrchodd Mariátegui yn frwd drwy annerch gweithwyr a gwerinwyr, sefydlu Cydffederasiwn Cyffredinol Gweithwyr Periw ym 1929, a gwasanaethu yn ysgrifennydd cyffredinol ei blaid, yn ogystal â chyhoeddi ysgrifau a llyfrau ar bynciau gwleidyddol a diwylliannol. Datganodd Mariátegui ei wrthwynebiad i [[penderfyniaeth economaidd|benderfyniaeth economaidd]], ac o'r herwydd fe gododd wrychyn y Marcswyr Uniongred y Comintern. Cafodd ei geryddu gan Gynhadledd Pleidiau Comiwnyddol America Ladin ym 1929 am fod yn "[[poblyddiaeth|boblydd]]" ac am enwi ei blaid yn sosialaidd yn hytrach na chomiwnyddol, ac o ganlyniad cytunodd i ailenwi'r blaid.<ref name=HDM/>
69,243

golygiad