Clive Sullivan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Clive Sullivan"
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
Cyfyngwyd tri thymor cyntaf Sullivan gan ei ddyletswyddau yn y fyddin, tair llawdriniaeth i'w ben-glin a damwain car bron yn angheuol ym mis Hydref 1963, er iddo ddychwelyd i chwarae rygbi dri mis yn ddiweddarach. Gadawodd y fyddin ar ôl cyfnod yng [[Cyprus|Nghyprus]] ym 1964. Yn rhydd o'i ymrwymiad ir fyddin, dychwelodd i Hull mewn pryd i chwarae gêm olaf y tymor.
 
Roedd Sullivan yn eithriadol o gyflym, ac er yr anawsterau gyda'i bengliniau a llawdriniaethau pellach, sgoriodd 250 mewn 352 o gemau i Hull a sgorio 118 o geisiau mewn 213 o gemau i Hull Kingston Rovers. Bu'n gapten-hyfforddwr Hull FC rhwng 1973 a '74.,
 
Chwaraeodd ei gem ryngwladol gyntaf i dim Prydain Fawr ym 1967. Y flwyddyn ganlynol chwaraeodd dair gêm yng Nghwpan y Byd, gan sgorio hat-tric yn erbyn Seland Newydd. Ym 1969, aeth ar daith o amgylch [[Awstralasia]], ond dim ond mewn un gêm y cymerodd ran oherwydd anaf. Enillodd dri [[Cap (chwaraeon)|chap]] prawf arall yn erbyn Seland Newydd ym 1971. Cafodd ei benodi'n gapten o dim Prydain Fawr yn 1972, a chwaraeodd ddwy gem brawf yn erbyn Ffrainc. Cynhaliwyd Cwpan y Byd yr un flwyddyn, ac ef oedd capten y tim ddaeth yn bencampwyr y byd. Sgoriodd gais ym mhob un o'r pedair gêm. Sgoriodd Sullivan o bosib y cais enwocaf yn hanes Cwpan y Byd pan redodd hyd y cae i sgorio cais i ddod yn gyfartal ag Awstralia (10-10) yn Gem Derfynol Cwpan y Byd.
 
Daeth ei yrfa gyda thim Prydain Fawr i ben yn 1973 gyda thair gem brawf yn erbyn Awstralia. Bu'nAt gapten-hyfforddwrei Hullgilydd, FCchwaraeodd rhwngSullivan 1973i adim '74Prydain Fawr 17 o weithiau.,
 
Arweiniodd Sullivan dim Cymru ym mhob un o'u pedair gem yng Nghwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair 1975, gan sgorio cais yn y fuddugoliaeth dros Loegr yn yr ail gêm. Gorffennodd Cymru yn drydydd o'r pum tim oedd yn cystadlu.
 
At ei gilydd, chwaraeodd Sullivan i dim Prydain Fawr 17 o weithiau ac ymddangosodd mewn tri Chwpan y Byd, i dim Prydain Fawr ym 1968 a 1972, a thros Gymru ym 1975.
 
== Cyfeiriadau ==