Daeargryn Llŷn 1984: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
 
Fe'u dilynwyd gan nifer o [[ôl-gryniad]]au yn y misoedd dilynol, y mwyaf ohonyn nhw yn mesur 4.3 ar raddfa Richter, crynfa ddigon cryf ynddo'i hunan i'w glywed mor bell i ffwrdd a [[Dulyn]], Iwerddon<ref name="BGS2">{{cite web|url=http://www.earthquakes.bgs.ac.uk/macroseismics/manchester_earthquake_sequence.htm|title=Manchester Earthquake Sequence report (Mentions this event) |publisher=BGS| accessdate= 10 October 2007 <!--DASHBot-->}}</ref>.
 
==Arwyddocad==
Daeargryn Llŷn 1984 oedd y grynfa-dir fwyaf y ganrif yn y Deyrnas Gyfunol, ac fe'i teimlwyd dros arwynebedd o 240,000 cilomedr sgwar. Digwyydodd y grynfa yn y [[cramen y ddaear|gramen]] isaf ar ddyfnder o 22 cilomedr ac fe'i dilynwyd gan nifer o ôl-gryniadau. Dangosodd mapio manwl yr ôl-grynfeydd y digwyddiad ar blân gogwyddol i'r gogledd ogledd-ddwyrain gyfeiro o'r gorllewin gogledd-orllewin i gyfeiriad y dwyrain de-ddwyrain. Cynrychiola hyn y plân ffawt sy'n cyd-fynd yn dda gydag un o brif blanau grynfa. Nid oes fodd bynnag unrhyw ffawt na nodwedd arwynebol i'w gweld sydd yn cydfynd â'r plân hwn.
 
Dwysedd uchaf y grynfa oedd 6 EMS (''European macroseismic scale'') a natur y difrod oedd craciau yn ymddangos mewn plastr a chwymp rhai simneau. Ymddengys bod y lefelau EMS uchel a adroddwyd o [[Lerpwl]] wedi eu hachosi gan gyflwr gwael llawer o'r adeiladau.
 
==Llygad-dystion==