Daeargryn Llŷn 1984: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 6:
 
==Arwyddocad==
Daeargryn Llŷn 1984 oedd crynfa-dir fwyaf y ganrif yn y Deyrnas Gyfunol, ac fe'i teimlwyd dros arwynebedd o 240,000 cilomedr sgwar. Digwyydodd y grynfa yn y [[cramenCramen y ddaearDdaear|gramen]] isaf ar ddyfnder o 22 cilomedr ac fe'i dilynwyd gan nifer o ôl-gryniadau. Dangosodd mapio manwl yr ôl-grynfeydd y digwyddiad ar blân gogwyddol i'r gogledd ogledd-ddwyrain ar gyfeiriad o'r gorllewin gogledd-orllewin i gyfeiriad y dwyrain de-ddwyrain. Cynrychiola hyn y plân ffawt sy'n cyd-fynd yn dda gydag un o brif blanau grynfa. Nid oes fodd bynnag unrhyw ffawt na nodwedd ar yr wyneb i'w gweld sydd yn cydfynd â'r plân hwn.
 
Dwysedd uchaf y grynfa oedd 6 EMS (''European macroseismic scale'') a natur y difrod oedd craciau yn ymddangos mewn plastr a chwymp rhai simneau. Ymddengys bod y lefelau EMS uchel a adroddwyd o [[Lerpwl]] wedi eu hachosi gan gyflwr gwael llawer o'r adeiladau.