Mabinogi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
cywiriad
Llinell 1:
Casgliad o bedair stori yn seiliedig ar y traddodiad llafar Cymreig yw'r '''Mabinogi'''. Eu henw traddodiadol yw [[Pedair Cainc y Mabinogi]] (mae ''cainc'' yn golygu "cangen", sef "chwedl o fewn chwedl").
 
Oherwydd i'r [[Arglwyddes Charlotte Guest]] gamddeall y gair ''mabynogion'' (sy'n digwydd unwaith yn unig, mewn testun o chwedl [[Pwyll]] mewn undwy o'r llawysgrifau), fe ddefnyddir y gair [[Mabinogion]] ers iddi hi gyhoeddi ei chyfieithiad Saesneg o'r Pedair Cainc ac wyth chwedl arall i gyfeirio at y chwedlau mytholegol Cymreig yn eu crynswth. Mae rhai o'r chwedlau hynny'n chwedlau llafar sy'n cynnwys elfennau hanesyddol o'r Oesoedd Canol, ond ceir ynddynt hefyd elfennau cynharach o lawer sy'n deillio o fyd [[y Celtiaid]].
 
Cedwir y chwedlau mewn dwy lawysgrif ganoloesoel, sef [[Llyfr Gwyn Rhydderch]] a ysgrifenwyd rywbryd rhwng [[1300]] a [[1325]], a [[Llyfr Coch Hergest]] a ysgrifenwyd rywbryd rhwng [[1375]] a [[1425]].