Elinor Bennett: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 12:
Ganed Elinor Bennett Owen yn [[Llanidloes]] ac yn chwe blwydd oed symudodd gyda'i theulu i [[Llanuwchllyn|Lanuwchlyn]] ger y Bala, i dŷ oedd yn rhan o hen gartref [[O.M. Edwards]], y Neuadd Wen. Aeth hi a'i chwaer i ysgol gynradd leol cyn symud ymlaen i Ysgol Ramadeg y Bala i Ferched ([[Ysgol y Berwyn]] erbyn hyn).
 
Yn ôl Bennett, nid oedd hi'n siwr beth oedd am wneud ar ôl gadael ysgol, ac nid oedd wedi astudio cerddoriaeth yn yr ysgol. Roedd athro'r gyfraith, Syr David Huws Parry yn byw drws nesaf yn y Neuadd Wen, am ei fod yn briod â merch O.M. Edwards. Felly penderfynodd fynd i astudio'r gyfraith yng [[Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth|Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth]]. Ar ôl graddio, aeth Bennett i weithio mewn swyddfa gyfreithiol yn Llundain, oedd yn ei geiriau ei hun yn "waith digon diflas". Penderfynodd ymgeisio am ysgoloriaeth i astudio yn [[Yr Academi Gerdd Frenhinol|Academi Gerdd Frenhinol Llundain]] gydag Osian Ellis. Enillodd yr ysgoloriaeth a threuliodd dair blynedd yn byw yn y brifddinas.<ref>{{Dyf gwe|url=http://www.bbc.co.uk/cymru/bywyd/safle/pobl/tudalen/elinor_bennett.shtml|teitl=BBC Cymru - Elinor Bennett|dyddiadcyrchiad=2 Mawrth 2016|cyhoeddwr= BBC Cymru}}</ref>
 
==Bywyd personol==