Condottieri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B testun italig
Tagiau: Golygiad cod 2017
Y Rhyfel 30 Mlynedd
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
[[Hurfilwyr]] a fuont yn gapteiniaid ar gwmnïau milwrol yn ystod [[yr Oesoedd Canol Diweddar]] yn [[yr Eidal]] oedd y '''''condottieri''''' (ffurfiau unigol: ''condottiero'' neu ''condottiere''). neu'r '''''capitani di ventura''''' (''capitano di ventura'').
 
Daw'r enw [[Eidaleg]] ''condottiero'' o'r gair ''condotta'', sef y contract a gytunwyd arno gan bennaeth yr hurfilwyr a'r arweinydd a oedd yn galw ar ei wasanaeth. Yn niwedd y 13g a'r 14g, daeth nifer o'r ''condottieri'' a'u lluoedd o'r [[Almaen]], [[Ffrainc]], neu wledydd [[y Balcanau]]. Yn ystod [[y Rhyfel Can Mlynedd]] (1337–1453) trodd nifer o filwyr [[Teyrnas Lloegr|Lloegr]] a Ffrainc at filwra am dâl yn ystod y cyfnodau [[cadoediad]], ac un o'r ''condottieri'' amlycaf oedd y Sais Syr John Hawkwood.
Llinell 5:
Erbyn y 15g, Eidalwyr oedd y mwyafrif o'r hurfilwyr a'r capteiniaid, a chawsant ran bwysig yn [[Rhyfeloedd yr Eidal]] (1494–1559). Yn ystod oes [[y Dadeni]], y ''condottieri'' oedd yn darparu'r rhan fwyaf o luoedd arfog ar gyfer [[dinas-wladwriaethau]]'r Eidal. Pendefigion oedd y nifer fwyaf o ''condottieri'', a oedd yn sicrhau annibyniaeth eu gwladwriaethau drwy gynorthwyo pwerau cyfagos. Llwyddodd dugiaid [[Dugiaeth Ferrara|Ferrara]], [[Dugiaeth Mantova|Mantova]], ac [[Dugiaeth Urbino|Urbino]] i ddiogelu eu diddordebau lleol drwy ddarparu milwyr ar gyfer gwladwriaethau mwy. Er i drefn y ''condottieri'' sefydlogi grym yn yr Eidal, bu cwmnïau bychain o hurfilwyr yn brawychu cymdeithas os nad oeddynt yn derbyn tâl, a throdd y rhai heb waith at [[banditiaeth|fanditiaeth]] yn aml. Buont yn destun dirmyg gan rai, er enghraifft [[Niccolò Machiavelli]], a honnant bod natur yr alwedigaeth yn atynnu dynion ariangar ac anrheithiol a chanddynt reddf fradwrus a thuedd at ysgarmesu yn hytrach na brwydro'n benben ar faes y gad. Er gwaethaf y cyhuddiadau hyn, ymladdodd y mwyafrif o'r ''condottieri'' yn ffyddlon ac yn effeithiol dros eu cyflogwyr, ac o'r herwydd defnyddiwyd y drefn hon gan wladwriaethau Ewrop am sawl canrif.
 
Yn ystod Rhyfeloedd Crefydd Ewrop, yn sgil gwrthdaro'r [[Diwygiad Protestannaidd]] a'r [[Gwrth-Ddiwygiad Catholig]] yn yr 16g, cyflogwyd y ''condottieri'' olaf gan frenhinoedd a dugiaid Ewrop. Ym Mrwydr y Mynydd Gwyn (1620), un o'r ymladdfeydd pwysig yn nechrau'r [[Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain]] (1618–48), enillodd y Gynghrair Gatholig, dan arweiniad Johan t'Serclaes, yn erbyn byddinoedd [[Teyrnas Bohemia|Bohemia]] a'r [[Etholaeth Balatin]]. Cyflogwyd Ernst von Mansfeld, a oedd yn Gatholig, i frwydro dros achosion y Protestaniaid, gan gynnwys yr Etholydd Palatin Ffredrig V, Christian von Braunschweig-Wolfenbüttel, a [[Taleithiau Unedig yr Iseldiroedd|Thaleithiau Unedig yr Iseldiroedd]].
 
Ym 1506 sefydlwyd [[y Gwarchodlu Swisaidd]] gan y [[Pab Iŵl II]], ac er i droedfilwyr Swisaidd gyfrannu yn helaeth at fyddinoedd [[Taleithiau'r Babaeth|y Babaeth]] yn ogystal â lluoedd brenhinoedd Ffrainc, ni rhoddir yr enw ''condottieri'' ar yr hurfilwyr hyn.<ref>Charles G. Nauert, ''Historical Dictionary of the Renaissance'' (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 90–91.</ref>