Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llyn"

Ychwanegwyd 1 beit ,  8 mis yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B (corr)
B
* Y llyn '''uchaf''' yn y byd y gellir ei fordwyo ar longau masnachol yw [[Llyn Titicaca]] yn [[Bolifia]] at 3,812 m. Mae hefyd y llyn dŵr croyw mwyaf (a'r ail yn gyffredinol) yn [[De America|Ne America]].
* Y llyn '''isaf''' yn y byd yw'r [[Môr Marw]] sy'n ffinio ag [[Israel]], [[Gwlad Iorddonen]] a'r [[Lan Orllewinol]] at 418 m (1,371 tr) is lefel y môr. Mae hefyd yn un o'r llynnoedd mwyaf hallt yn y byd.
* Y llyn dŵr croyw '''mwyaf''' o ran arwynebedd, a'r trydydd mwyaf o ran maint, yw [[Llyn Superior]] gyda arwynebedd o 82,414 km². Fodd bynnag, mae [[Llyn Huron]] a [[Llyn Michigan]] yn ffurfio un system hydrolegol gydag arwynebedd o 117,350 km², y cyfeirir ato weithiau fel [[Llyn Michigan-Huron]]. Mae'r rhain i gyd yn rhan o'r [[Llynnoedd Mawr]] ynyng [[Gogledd America|Ngogledd America]].
* Yr [[ynys]] fwyaf mewn llyn dŵr croyw yw [[Ynys Manitoulin]] yn [[Llyn Huron]], gyda arwynebedd o 2,766 km². [[Llyn Manitou]], ar yr ynys honno, yw'r llyn mwyaf ar ynys mewn llyn dŵr croyw.
* Y llyn mwyaf a leolir ar ynys yw [[Llyn Nettilling]] ar [[Ynys Baffin]].