Poggio Bracciolini: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:26, 31 Gorffennaf 2020

Ysgolhaig clasurol, ceinlythrennwr, a dyneiddiwr oedd 'Gian Francesco Poggio Bracciolini (11 Chwefror 138030 Hydref 1459) sydd yn nodedig am ailddarganfod sawl llawysgrif Lladin glasurol mewn llyfrgelloedd mynachaidd Ewrop.

Poggio Bracciolini
GanwydGiovanni Francesco Poggio Bracciolini Edit this on Wikidata
11 Chwefror 1380 Edit this on Wikidata
Terranuova Bracciolini Edit this on Wikidata
Bu farw30 Hydref 1459 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fflorens, Taleithiau'r Babaeth, yr Eidal Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, ysgolhaig clasurol, athronydd, cyfieithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PlantIacopo Bracciolini Edit this on Wikidata

Ganed yn Terranuova, Gweriniaeth Fflorens, a leolir heddiw yn nhalaith Arezzo. Gweithiodd yn Fflorens yn adysgrifennu llawysgrifau, ac wrth ei waith fe ddyfeisiai'r ysgrifen ddyneiddiol, ar sail y llaw fân Garolingaidd. Cafodd yr arddull hwnnw ei ddynwared a'i gaboli gan gopiwyr llawysgrifau gan ddatblygu yn ffurf gynnar ar y teipiau Rhufeinig.

Ym 1403 symudodd i Rufain a fe'i penodwyd yn ysgrifennydd i'r Pab Boniffas IX. Yn Abaty Cluny ym 1415 daeth o hyd i ddau araith gan Cicero, a gyfrannai darganfyddiadau Poggio at Ciceroniaeth yr oes. Ym 1416, daeth o hyd i'r testun cyflawn cyntaf o Institutio oratoria gan Quintilian, tri o lyfrau Argonautica a rhan o un arall gan Valerius Flaccus, a sylwebaeth Asconius Pedianus ar areithiau Cicero, i gyd yn llyfrgell Abaty Sant Gall. Aeth ar sawl taith i Fulda a mynachlogydd eraill i chwilio am ragor o lawysgrifau, ac ym 1417 canfuwyd De significatu verborum gan Sextus Pompeius Festus, De rerum natura gan Lucretius, Astronomica gan Manilius, Punica gan Silius Italicus, Res gestae gan Ammianus Marcellinus, a'r llyfr coginio Apicius. Daeth o hyd i ragor o areithiau Cicero yn Langres ac yng Nghwlen.[1]

Treuliodd y cyfnod 1418–23 yn Lloegr, ond methodd i ganfod llawysgrifau anhysbys yn y llyfrgelloedd yno. Fe'i ailbenodwyd yn ysgrifennydd yn Rhufain ym 1423, a daeth o hyd i ragor o lawysgrifau Lladin ar draws yr Eidal, gan gynnwys De aquaeductibus gan Frontinus a Matheseos libri gan Firmicus Maternus. Cyfieithodd Poggio sawl gwaith o'r Hen Roeg i'r Lladin, gan gynnwys Cyropaedia gan Xenophon, gweithiau hanes Diodorus Siculus, ac Onos gan Lucianus. Bu hefyd yn astudio pensaernïaeth yr Henfyd ac yn casglu arysgrifau a cherfluniaeth glasurol.

Wedi marwolaeth Carlo Aretino ym 1453, penodwyd Poggio yn ganghellor Fflorens, a threuliodd ddiwedd ei oes yn llywodraethu'r weriniaeth ac yn ysgrifennu hanes y ddinas. Bu farw yn Fflorens yn 79 oed.[1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Gian Francesco Poggio Bracciolini. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2020.