Morgan Owen (bardd a llenor): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tacluso dolen
Tacluso dolen
Llinell 12:
Ym mis Awst, 2019, cyhoeddwyd taw ef oedd ennillydd [[Her Gyfieithu]] [[Cyfnewidfa Lên Cymru]]/[[PEN Cymru]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019]].<ref>{{Cite web|title=Her Gyfieithu 2019: Cyhoeddi’r Enillydd – Wales PEN Cymru|url=http://walespencymru.org/her-gyfieithu-2019-cyhoeddir-enillydd/|access-date=2019-08-09|}}</ref> Ym mis Medi 2019, enillodd gadair Eisteddfod [[Cwmystwyth]], gyda cherdd yn y wers rydd ar y testun 'Bro'; fis yn ddiweddarach, enillodd gadair Eisteddod Bancffosfelen a Chrwbin.
 
Ddiwedd mis Hydref 2019, cyhoeddwyd ei gasgliad hir cyntaf o gerddi, ''Bedwen ar y lloer'', gan Gyhoeddiadau'r Stamp.<ref>{{Cite web|title=Cyhoeddiad a cherdd: Bedwen ar y Lloer - Morgan Owen|url=https://www.ystamp.cymru/single-post/2019/10/23/Cyhoeddiad-Bedwen-ar-y-Lloer---Morgan-Owen|website=ystamp-1|access-date=2020-08-01|language=en}}</ref> Mae'r cerddi hyn yn mynd i'r afael â phrofiadau a llefydd ôl-ddiwydiannol, gyda thref enedigol y bardd, [[Merthyr Tudful]], yn ganolog i lawer ohonynt, a theimladau o ymddieithrwch a pherthyn. Maent hefyd yn archwilio coedwigoedd hynafol a mannau dinesig, ucheldiroedd cynhanesyddol ac ymylon cymdeithas. Ceir canu natur yn ogystal, a thipyn o bwyslais ar sut mae hanes a phrofiad yn ymwau â gwahanol ofodau.
 
Ddiwedd mis Chwefror 2020, enillodd gadair Eisteddfod [[Cymdeithas Ceredigion]]; ac ym mis Gorffennaf 2020, enillodd gadair cystadleuaeth agored arbennig [[Cymdeithas Eisteddfodau Cymru]] a gynhaliwyd yn ystod y pandemig Coronfeirws.