Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Poggio Bracciolini"

Ychwanegwyd 3,453 beit ,  blwyddyn yn ôl
ehangu
B
Tagiau: 2017 source edit
(ehangu)
Tagiau: 2017 source edit
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | dateformat = dmy }}
YsgolhaigLlenor [[Eidalwyr|Eidalaidd]] yn yr iaith [[Lladin|Ladin]], ysgolhaig clasurol, [[ceinlythrennu|ceinlythrennwr]], a [[dyneiddiaeth y Dadeni|dyneiddiwr]] yng nghyfnod [[y Dadeni Dysg]] oedd '''Gian Francesco Poggio Bracciolini''' ([[11 Chwefror]] [[1380]] – [[30 Hydref]] [[1459]]) sydd yn nodedig am ailddarganfod sawl llawysgrif [[Lladinllawysgrif]] Lladin glasurol mewn llyfrgelloedd mynachaidd Ewrop.
 
== Bywyd cynnar ==
Ganed ynGian Francesco Poggio Bracciolini ar 11 Chwefror 1380 ym mhentref Terranuova, [[Gweriniaeth Fflorens]], a leolir heddiw yn nhalaith Arezzo. GweithioddAeth yni ddinas [[Fflorens]] a dysgodd yr ieithoedd Lladin a [[Groeg (iaith)|Groeg]] yn ogystal â gwaith y notari a'r sgrifellwr. Gweithiodd yn Fflorens yn ystod ei ieuenctid yn adysgrifennu llawysgrifau, ac wrth ei waith fe ddyfeisiai'r ysgrifen ddyneiddiol, ar sail y llaw fân Garolingaidd. Cafodd yr arddull hwnnw ei ddynwared a'i gaboli gan gopiwyr llawysgrifau gan ddatblygu yn ffurf gynnar ar y [[teip (teipograffeg)|teipiau]] Rhufeinig.
 
== Chwilota a llenydda ==
Ym 1403 symudodd i [[Rhufain|Rufain]] a fe'i penodwyd yn ysgrifennydd i'r [[Pab Boniffas IX]] (t. 1389–1404). Cyd-deithiodd Bracciolini ar draws Ewrop yn un o'r osgordd babaidd, er enghraifft i Gyngor Eglwysig Konstanz (1414–18), ac ymwelodd â llyfrgelloedd y [[mynachlog]]ydd a'r eglwysi a fu'n meddu ar gannoedd o lawysgrifau hynafol unigryw. Yn [[Abaty Cluny]] ym 1415 daeth o hyd i ddau araith gan [[Cicero]], aac gyfrannai darganfyddiadau Poggio at [[Ciceroniaeth]] yr oes. Ymym 1416, daethfe o hyd iganfu'r testun cyflawn cyntaf o ''Institutio oratoria'' gan [[Quintilian]], tri o lyfrau ''Argonautica'' a rhan o un arall gan [[Valerius Flaccus]], a sylwebaeth [[Asconius Pedianus]] ar areithiau Cicero, i gyd yn llyfrgell [[Abaty Sant Gall]]. Aeth ar sawl taith i Fulda a mynachlogydd eraill i chwilio am ragor o lawysgrifau, ac ym 1417 canfuwyd ''De significatu verborum'' gan [[Sextus Pompeius Festus]], ''De rerum natura'' gan [[Lucretius]], ''Astronomica'' gan [[Manilius]], ''Punica'' gan [[Silius Italicus]], ''Res gestae'' gan [[Ammianus Marcellinus]], a'r llyfr coginio ''Apicius''. Daeth o hyd i ragor o areithiau Cicero yn [[Langres]] ac yng [[Cwlen|Nghwlen]].<ref name=Britannica/> Cyfrannodd darganfyddiadau Bracciolini o weithiau Cicero a Quintilian at ddealltwriaeth ysgolheigion Ewropeaidd yr oes o arddull Lladin, [[rhethreg]] glasurol, a chysyniadau o addysg.
 
Treuliodd y cyfnod 1418–23 yn [[Teyrnas Lloegr|Lloegr]], ond methodd i ganfod llawysgrifau anhysbys yn y llyfrgelloedd yno. Fe'i ailbenodwyd yn ysgrifennydd yn Rhufain ym 1423, a daeth o hyd i ragor o lawysgrifau Lladin ar draws yr Eidal, gan gynnwys ''De aquaeductibus'' gan [[Frontinus]] a ''Matheseos libri'' gan [[Firmicus Maternus]]. CyfieithoddYmhlith Poggioyr awduron Lladin eraill a ddaeth i'r amlwg yn y Dadeni o ganlyniad i ddarganfyddiadau Bracciolini mae [[Vitruvius]], [[Petronius]], a [[Plautus]]. Cyfieithodd sawl gwaith o'r Hen Roeg i'r Lladin, gan gynnwys ''Cyropaedia'' gan [[Xenophon]], gweithiau hanes [[Diodorus Siculus]], ac ''Onos'' gan [[Lucianus]]. Bu hefyd yn dipyn o [[archaeoleg]]ydd am iddo astudio pensaernïaeth yr Henfyd ac yna casgluchasglu [[arysgrif]]au a cherfluniaeth glasurol. Gweithiodd i [[Llys y Pab|Lys y Pab]] am hanner can mlynedd, ac erbyn diwedd ei yrfa fe'i cyflogwyd yn swydd yr ysgrifennydd apostolaidd.
 
O ran ei ysgrifeniadau gwreiddiol, llenor toreithiog ac amrywiol oedd Bracciolini. Enillodd enw fel rhethregwr huawdl am ei areithiau a'i [[molawd|folawd]]au, a derbyniodd glod hefyd am ei ymdriniaethau â phynciau moes a defod. Cymerir y rheiny yn aml ffurf yr ymgom foesol, sydd yn cyfuno dadleuaeth yr ysgrif â chymeriadaeth ac ymddiddan y dialog, er enghraifft ''De avaritia'' (1428–29), ''De nobilitate'' (1440), ac ''Historia tripartita disceptativa convivalis'' (1450). O bosib ei waith amlycaf ydy ''De varietate fortunae'' (1431–48), sydd yn dathlu gogoniant [[Rhufain hynafol]] ac yn gresynu at ei chwymp. Mae ambell un, megis ''De miseria humanae conditionis'' (1455), yn cyfleu pesimistiaeth deimladwy. Ysgrifennodd ddychanau a [[ffabl]]au anweddus, a gesglid dan y teitl ''Facetiae'' (1438–52), yn gwatwar mynachod, clerigwyr, ac ysgolheigion eraill megis [[Francesco Filelfo]], [[Guarino da Verona]], a [[Lorenzo Valla]], a chyhoeddodd ragor o ysgrifau [[polemig]] a sarhaus yn ymosod ar lygredd a rhagrith y glerigiaeth, a'r ymgom ''Contra hypocritas'' (1447–48) ar bwnc tebyg. Er i [[gwrthglerigiaeth|wrthglerigiaeth]] ac anlladrwydd y straeon a thraethodau hyn gythruddo, cawsant nifer o ddarllenwyr. Nodweddir ei waith gan fynegiant huawdl a bywiog o'r Lladin, a dengys ei feistrolaeth ar briod-ddulliau yr iaith yn ei ohebiaeth helaeth, a ystyrir yn esiamplau gwych o lythyron hyddysg y dyneiddwyr. Yn niwedd ei oes, bu gwrthdaro rhwng arddull hyblyg Bracciolini o Ladin ysgrifenedig a safonau clasurol y dyneiddwyr ieuangach, yn eu plith Lorenzo Valla, ei brif elyn llenyddol. Bu [[Ciceroniaeth]] ar ei hanterth erbyn canol yr 16g, a dyrchafwyd arddull Quintilian gan ambell ysgolhaig, gan gynnwys Valla. Gwelir eironi yn y ffaith bod efelychwyr Cicero a Quintilian yn tynnu yn gryf ar ddarganfyddiadau Bracciolini o weithiau'r awduron hynny.
Wedi marwolaeth [[Carlo Aretino]] ym 1453, penodwyd Poggio yn ganghellor Fflorens, a threuliodd ddiwedd ei oes yn llywodraethu'r weriniaeth ac yn ysgrifennu hanes y ddinas. Bu farw yn Fflorens yn 79 oed.<ref name=Britannica>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Gian-Francesco-Poggio-Bracciolini |teitl=Gian Francesco Poggio Bracciolini |dyddiadcyrchiad=31 Gorffennaf 2020 }}</ref>
 
== Diwedd ei oes ==
Ymddiswyddodd Bracciolini o Lys y Pab ym 1452 a dychwelodd i Fflorens. Er iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i oes yn teithio ar draws Ewrop yng ngwasanaeth y pab, un o feibion balchaf Fflorens ydoedd a fe'i gelwid yn "Poggius Florentinus" gan ei gyfoedion.<ref>Charles G. Nauert, ''Historical Dictionary of the Renaissance'' (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 44–45.</ref> Wedi marwolaeth [[Carlo Aretino]] ym 1453, penodwyd PoggioBracciolini yn ganghellorGanghellor Fflorens, a threuliodd ddiwedd ei oes yn llywodraethu'r weriniaeth ac yn ysgrifennu hanes y ddinas, ar ddelw'r hanesydd Rhufeinig [[Livius]] ac yn parhau â gwaith ei gyfaill [[Leonardo Bruni]]. Bu farw Poggio Bracciolini yn Fflorens ar 30 Hydref 1459 yn 79 oed.<ref name=Britannica>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Gian-Francesco-Poggio-Bracciolini |teitl=Gian Francesco Poggio Bracciolini |dyddiadcyrchiad=31 Gorffennaf 2020 }}</ref>
 
== Cyfeiriadau ==
70,006

golygiad