Poggio Bracciolini: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 10:
Treuliodd y cyfnod 1418–23 yn [[Teyrnas Lloegr|Lloegr]], ond methodd i ganfod llawysgrifau anhysbys yn y llyfrgelloedd yno. Fe'i ailbenodwyd yn ysgrifennydd yn Rhufain ym 1423, a daeth o hyd i ragor o lawysgrifau Lladin ar draws yr Eidal, gan gynnwys ''De aquaeductibus'' gan [[Frontinus]] a ''Matheseos libri'' gan [[Firmicus Maternus]]. Ymhlith yr awduron Lladin eraill a ddaeth i'r amlwg yn y Dadeni o ganlyniad i ddarganfyddiadau Bracciolini mae [[Vitruvius]], [[Petronius]], a [[Plautus]]. Cyfieithodd sawl gwaith o'r Hen Roeg i'r Lladin, gan gynnwys ''Cyropaedia'' gan [[Xenophon]], gweithiau hanes [[Diodorus Siculus]], ac ''Onos'' gan [[Lucianus]]. Bu hefyd yn dipyn o [[archaeoleg]]ydd am iddo astudio pensaernïaeth yr Henfyd a chasglu [[arysgrif]]au a cherfluniaeth glasurol. Gweithiodd i [[Llys y Pab|Lys y Pab]] am hanner can mlynedd, ac erbyn diwedd ei yrfa fe'i cyflogwyd yn swydd yr ysgrifennydd apostolaidd.
 
O ran ei ysgrifeniadau gwreiddiol, llenor toreithiog ac amrywiol oedd Bracciolini. Enillodd enw fel rhethregwr huawdl am ei areithiau a'i [[molawd|folawd]]au, a derbyniodd glod hefyd am ei ymdriniaethau â phynciau moes a defod. Cymerir y rheiny yn aml ffurf yr ymgom foesol, sydd yn cyfuno dadleuaeth yr ysgrif â chymeriadaeth ac ymddiddan y dialog, er enghraifft ''De avaritia'' (1428–29), ''De nobilitate'' (1440), ac ''Historia tripartita disceptativa convivalis'' (1450). O bosib ei waith amlycaf ydy ''De varietate fortunae'' (1431–48), sydd yn dathlu gogoniant [[Rhufain hynafol]] ac yn gresynu at ei chwymp. Mae ambell un, megis ''De miseria humanae conditionis'' (1455), yn cyfleu pesimistiaeth deimladwy. Ysgrifennodd ddychanau a [[ffabl]]au anweddus, a gesglid dan y teitl ''Facetiae'' (1438–52), yn gwatwar mynachod, clerigwyr, ac ysgolheigion eraill megis [[Francesco Filelfo]], [[Guarino da Verona]], a [[Lorenzo Valla]], a chyhoeddodd ragor o ysgrifau [[polemig]] a sarhaus yn ymosod ar lygredd a rhagrith y glerigiaeth, a'r ymgom ''Contra hypocritas'' (1447–48) ar bwnc tebyg. Er i [[gwrthglerigiaeth|wrthglerigiaeth]] ac anlladrwydd y straeon a thraethodau hyn gythruddo, cawsant nifer o ddarllenwyr. Nodweddir ei waith gan fynegiant huawdl a bywiog o'r Lladin, a dengys ei feistrolaeth ar briod-ddulliau yr iaith yn ei ohebiaeth helaeth, a ystyrir yn esiamplau gwych o lythyron hyddysg y dyneiddwyr. Yn niwedd ei oes, bu gwrthdaro rhwng arddull hyblyg Bracciolini o Ladin ysgrifenedig a safonau clasurol y dyneiddwyr ieuangach, yn eu plith Lorenzo Valla, ei brif elyn llenyddol. Bu [[Ciceroniaeth]] ar ei hanterth erbyn canol yry 16g15g, a dyrchafwyd arddull Quintilian gan ambell ysgolhaig, gan gynnwys Valla. Gwelir eironi yn y ffaith bod efelychwyr Cicero a Quintilian yn tynnu yn gryf ar ddarganfyddiadau Bracciolini o weithiau'r awduron hynny.
 
== Diwedd ei oes ==