Din Lligwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:House_at_Din_Llugwy.jpg|right|thumb|300px|Gweddillion un o'r tai crwn]]
 
Mae '''Din Lligwy''' (weithiau '''Din Llugwy''') yn olion nifer o dai ac adeiladau eraill yn dyddio o gyfnod y [[Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]] ar arfordir dwyreinol [[Ynys Môn]] yn agos i bentref [[Moelfre]].
 
Saif Din Lligwy ar fryn isel heb fod ymhell o'r môr. Tu mewn i fur amgylchynol mae sylfeini nifer o adeiladau, rhai ohonynt yn grwn a rhai yn hirsgwar. Mae olion gweithio [[haearn]] yn rhai ohonynt. Credir fod yr adeiladau crwn yn dai a'r rhai hirsgwar yn weithdai. Er ei fod yn is nag yr oedd yn wreiddiol, mae'r mur allanol mewn cyflwr da. Bu cloddio [[Archaeoleg|archaeolegol]] yma, a gwnaed nifer o ddarganfyddiadau. Roedd rhai o'r rhain yn awgrymu fod y lle yn cael ei ddefnyddio yn y bedwaredd ganrif O.C., ond roedd hefyd dystiolaeth o adeiladau ar y safle cyn y rhai a welir, efallai yn dyddio i [[Oes yr Haearn]]. Cafwyd hyn i far o arian, crochenwaith wedi ei fewnforio ac eitemau gwydr.